Dysgu a datblygu staff

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymrwymedig i sicrhau fod gan ei gyflogeion y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad cywir i ymgymryd â'u rolau a'u bod yn datblygu i wireddu eu potensial.

Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu ar gael yn y gweithle. Mae pob cyflogai newydd yn ymgymryd â rhaglen sefydlu i'w helpu i setlo a deall mwy am y cyngor.

Mae'r cyngor yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau dysgu a datblygu mewnol i'w gyflogeion yn ogystal â hyfforddiant sy'n benodol i'r swydd. Mae cyrsiau yn cynnwys:

  • Sgiliau pendantrwydd
  • Meddwl yn greadigol a datrys problemau
  • Sgiliau dylanwadu a negodi
  • Sgiliau gwrando a chwestiynu
  • Rheoli gwrthdaro
  • Ysgogi eraill er mwyn gwella perfformiad
  • Cynnal cyfarfodydd effeithiol
  • Ymwybyddiaeth o straen

Drwy gydol eich bywyd gwaith gyda'r cyngor, cewch gyfle i drafod eich gwaith, eich anghenion a'ch dyheadau yn rheolaidd gyda'ch rheolwr llinell.

At hynny, mae'r Adolygiad Datblygu Perfformiad blynyddol yn gyfle i gyflogeion drafod amcanion gwaith a datblygiad personol yn fwy manwl ac yn gyfle i nodi unrhyw anghenion dysgu a datblygu a chynllunio ar eu cyfer.

Positive About Disabled People