Swyddi gwag
Cewch yma wybodaeth am ein swyddi gwag diweddaraf gan gynnwys disgrifiadau swydd a manylebau person.
Pan fyddwch wedi cofrestru gyda ni bydd y system yn cadw eich manylion unwaith felly ni fydd angen i chi ail-roi eich manylion personol fel cyfeiriad, cymwysterau, hanes gwaith os ydych am ymgeisio am fwy nag un swydd.
Yr unig adran y bydd yn rhaid i chi ei chwblhau bob tro fydd yr adran 'pam chi?', oni bai bod angen i chi ddiweddaru unrhyw adran am eich bod wedi, er enghraifft, symud tŷ neu ennill cymhwyster arall.
Ymgeiswyr newydd
Cyn ymgeisio am swyddi ar-lein, bydd angen i chi gofrestru drwy roi cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Rhaid i'ch enw defnyddiwr fod o leiaf pum nod o hyd. Rhaid i'ch cyfrinair fod o leiaf chwe nod o hyd.
Nodwch, byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost y byddwch yn ei roi i gysylltu â chi yn ystod y broses recriwtio.