Lles Gweithwyr

“Mae meithrin lles gweithwyr yn dda i bobl ac i’r sefydliad. Gall hybu lles helpu atal straen a chreu amgylcheddau gwaith cadarnhaol lle gall unigolion a sefydliadau ffynnu.”

Mae pwysigrwydd iechyd a lles gweithwyr wedi cael ei gydnabod yn ehangach dros y degawd diwethaf. Yn benodol, mae pryder cynyddol am iechyd meddwl, a’r pwysau cynyddol y mae pobl yn eu hwynebu wrth fyw a gweithio yn y byd sydd ohoni.

Mae lles gweithwyr yn hanfodol ar gyfer perfformiad busnes. Mae gweithle iach, sy'n hyrwyddo cyflwr o fodlonrwydd, o fudd i weithwyr ac i'r sefydliad.

Ein blaenoriaeth ddiamod ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw gweithio gyda'n gweithwyr ni i hyrwyddo a hwyluso iechyd a lles da, ac i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'r rhai sydd angen ein cymorth ni.

Yn ôl canlyniadau ein harolwg staff diweddar ni, mae 84% o'r ymatebwyr yn teimlo bod eu cydbwysedd bywyd a gwaith nhw yn dda neu'n dda iawn.

Dywedodd gweithwyr fod un o'r rhesymau allweddol fel ffactor a gyfrannodd at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith oedd gweithio ystwyth.

Dywedodd gweithwyr fod gweithio ystwyth wedi golygu eu bod nhw’n gallu treulio mwy o amser gyda’r teulu, gweithio’n hyblyg o amgylch anghenion personol, gwella eu cynhyrchiant nhw, teimlo bod mwy o ymddiriedaeth ynddyn nhw a helpu gyda’u cyfrifoldebau gofalu nhw.

Darganfod mwy am ein strategaeth les.