Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Cynllun Pensiwn

Rydym yn cynnig aelodaeth i Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) sy’n rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) cenedlaethol.

Mae’r cyngor yn talu swm sylweddol i helpu i ariannu holl fuddion y cynllun, sy’n cynnwys gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn, y cyfle i gyfnewid pensiwn am gyfandaliad ar ymddeoliad, darpariaethau ymddeoliad oherwydd afiechyd, pensiynau ar gyfer buddion sy’n goroesi os byddant yn marw a sicrwydd bywyd. o dâl gwirioneddol tair blynedd.

Mae'r CPLlL yn gynllun statudol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ddiogel iawn oherwydd bod y swm a delir i aelodau yn ystod ymddeoliad wedi'i ddiffinio a'i nodi yn y gyfraith.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen).

Hawl Gwyliau Blynyddol Hael

Rydyn ni’n cynnig hawliau gwyliau blynyddol hael i weithwyr yn ychwanegol at y 9 gŵyl banc statudol y flwyddyn. Mae eich lwfans gwyliau blynyddol chi yn cael ei gyfrifo yn ôl hyd eich gwasanaeth chi.

Mae gan y rhan fwyaf o staff yr hawl i wyliau blynyddol sylfaenol o 30 diwrnod y flwyddyn (pro rata ar gyfer staff rhan-amser). Mae hyn yn codi i 34 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor. Gall hyn amrywio ychydig ar gyfer gwahanol grwpiau megis athrawon.

Gweithio Ystwyth

Yr wythnos waith safonol ar gyfer y rhan fwyaf o staff yw 37 awr, ond rydyn ni’n gweithredu model gweithio ystwyth yn unol ag anghenion y maes gwasanaeth.

Rydyn ni’n cydnabod bod gweithio ystwyth o fudd i ni ac i weithwyr a’i fod yn fecanwaith allweddol wrth helpu gweithwyr i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Rydyn ni’n darparu offer TG sy'n helpu gweithio ystwyth ac sy'n galluogi gweithio gartref ac mewn llawer o leoliadau eraill.

Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod lawn o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

  • Absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb gofalwr
  • Cynllun seibiant gyrfa
  • Absenoldeb mamolaeth a thadolaeth
  • Absenoldeb rhiant
  • Polisi rhannu swydd

Cynllun Beicio i'r Gwaith

Mae'r Cynllun Beicio i'r Gwaith yn fenter gan y llywodraeth sy'n annog teithio amgen ac yn lleihau ein heffaith amgylcheddol ni. Nid yn unig y mae’n lleihau eich ôl troed carbon chi, ond mae hefyd yn caniatáu i chi ledaenu’r gost o gael beic newydd, arbed Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol (lle bo’n berthnasol) a gwella’ch iechyd a’ch ffitrwydd chi.

Aelodaeth Hamdden Ratach

Mae Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden y Cyngor yn cynnig aelodaeth gorfforaethol y mae pob aelod o staff yn gymwys i'w hawlio. Mae gwasanaethau wedi'u gwasgaru dros 10 safle ledled y Fwrdeistref Sirol gydag amrywiaeth o aelodaeth ar gael i ddarparu ar gyfer eich anghenion penodol chi.

Mae dau becyn aelodaeth gorfforaethol:

Aelodaeth Gorfforaethol Dull Byw Actif Nofio – Mynediad at sesiynau nofio cyhoeddus a phob gweithgaredd dŵr e.e. Erobeg dŵr – £16.00 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol (heb gontract)

Aelodaeth Gorfforaethol Dull Byw Actif Plws – Mynediad at sesiynau nofio cyhoeddus, ystafelloedd ffitrwydd, ystafelloedd iechyd a chwaraeon raced (gan gynnwys badminton, sboncen, tennis bwrdd, tennis byr) – £23.10 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol (heb gontract).

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01443 863072 neu drwy e-bost Hamdden@caerffili.gov.uk.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr ni, Care First, yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol ar gyfer materion yn y gwaith a gartref.

Mae'r gwasanaethau ar gael ar-lein a drwy rif Rhadffôn ddydd a nos.

Mae sawl ffordd y mae’r cymorth ar gael:

Gwasanaeth cwnsela dros y ffôn sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ddydd a nos, 365 diwrnod y flwyddyn Mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth diduedd am ddim, i'ch helpu chi i ddod o hyd i atebion ymarferol i gwestiynau bywyd go iawn.

Mae pynciau cyffredin yn cynnwys materion teuluol a phersonol, cyllid/rheoli dyled, budd-daliadau, cyflogaeth, darpariaeth gofal plant, iechyd, ysgrifennu ewyllysiau a materion defnyddwyr.

Mae’n wasanaeth iechyd a lles ar-lein gydag adnodd helaeth o erthyglau a gwybodaeth sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i reoli ffordd iach o fyw.

Mae gwefan ac ap symudol sy'n darparu cymorth iechyd a ffitrwydd personol rhyngweithiol am ddim.

Cynllun Ceir Gwyrdd

Mae ein Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer Ceir Gwyrdd ni yn fenter sy’n cael ei noddi gan y llywodraeth i ddarparu trefniant prydlesu ar gyfer ceir allyriadau isel.

Mae'r Cyngor yn credu bod hon yn ffordd dda o helpu gweithwyr yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn, a bydd y cynllun hefyd yn helpu lleihau allyriadau carbon yn unol ag agenda cynaliadwyedd yr Awdurdod.

Mae'r cynllun yn caniatáu i chi gael mynediad at gar newydd sbon, wedi'i gynnal a'i gadw'n llawn ac wedi'i yswirio am swm misol penodol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu tanwydd.

Gofal Iechyd

Rydyn ni’n cynnig prawf llygaid am ddim i staff sy'n defnyddio cyfarpar sgrin arddangos (DSE) a sbectol am ddim neu arian tuag at sbectol.

Mae cyflogeion dynodedig (gofalyddion) yn cael pigiad ffliw am ddim.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau arfer gorau o ran Monitro a Gwyliadwriaeth Iechyd Galwedigaethol. Bydd yr holl weithgareddau gwaith sy'n cyflwyno perygl posibl i weithwyr yn cael eu nodi, yn cael eu hasesu o ran risg a, lle bo'n briodol, bydd systemau Rheoli Gwyliadwriaeth Iechyd Galwedigaethol yn cael eu gweithredu i ddiogelu a monitro iechyd parhaus gweithwyr.

Cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Cyflog Byw Gwirioneddol.

Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn gyfradd fesul awr wedi’i bennu’n annibynnol ac a gaiff ei diweddaru’n flynyddol, sef £12.00 yr awr ar hyn o bryd, wedi’i chyfrifo yn ôl costau byw sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni wedi dewis talu’r Cyflog Byw ar sail wirfoddol achos rydyn ni’n credu ei fod yn dda i’r Cyngor, i’r unigolyn ac i gymdeithas.

Dysgu a Datblygu Staff

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ein gweithwyr ni y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad cywir i gyflawni eu rolau nhw ac iddyn nhw ddatblygu i gyflawni eu potensial nhw.

Mae ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu ar gael yn y gweithle. Mae pob gweithiwr newydd yn cael cyfnod sefydlu i'w helpu i ymgartrefu a deall rhagor am y Cyngor.

Rydyn ni hefyd yn annog ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr.

Undebau Llafur

Mae pob gweithiwr yn cael cyfle i ymuno ag Undeb Llafur. Am ffi fisol, mae gan aelodau undeb fynediad at gyngor a chymorth cyfreithiol am ddim, cymorth lles ac ystod eang o fudd-daliadau gostyngol a chynrychiolaeth lawn yn y gweithle.