Eich System Ddŵr chi

Beth yw Clefyd y Llengfilwyr?

Mae Clefyd y Llengfilwyr yn salwch tebyg i niwmonia sy’n cael ei achosi gan y bacteria Legionella, sy'n deillio o dapiau a chawodydd nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio'n aml. Mae'r haint yn cael ei achosi gan anadlu defnynnau bach o ddŵr sydd wedi'i halogi gan y bacteria. Nid oes modd trosglwyddo'r afiechyd o un person i'r llall. Fel arfer, nid oes modd i chi gael eich heintio gan ddŵr yfed sy'n cynnwys y bacteria.

 

Mae bacteria Legionella yn ffynnu mewn tymheredd rhwng 20-45°C, os yw'r amodau'n iawn. Mae’n hawdd atal Clefyd y Llengfilwyr drwy roi rhai mesurau rheoli syml ar waith.

Yn bwysicaf oll, gwnewch yn siŵr:

  • Bod dŵr poeth sydd yn y system yn parhau i fod yn boeth

  • Bod dŵr oer yn parhau i fod yn oer

  • Bod dŵr yn parhau i gylchredeg

Eich cawod chi

Os nad ydych chi'n defnyddio'ch cawod chi o leiaf unwaith yr wythnos, gyrrwch ddŵr trwyddo am o leiaf ddau funud yr wythnos.

Glanhewch ben y gawod yn rheolaidd i'w ddigennu a'i ddiheintio o leiaf unwaith bob 3 mis.

Cylchrediad dŵr

Os ydych chi wedi bod ar wyliau neu os nad yw ystafell yn cael ei defnyddio'n rheolaidd, gyrrwch ddŵr trwy'r system bob wythnos. Efallai y bydd angen cymorth arnoch chi gan eich teulu/ffrindiau i wneud hyn os bydd yr eiddo’n cael ei adael yn wag.  Rhowch wybod i'ch landlord os yw’r eiddo wedi bod yn wag am gyfnod o amser.

Os oes gennych chi dapiau/toiledau y tu allan, dylid eu fflysio nhw'n rheolaidd, yn debyg i'r cyngor sy'n ymwneud â chawodydd uchod. Os oes gennych chi bibelli dŵr sydd wedi'u cysylltu â thapiau allanol, datgysylltwch nhw pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio.

Er mai cyfrifoldeb eich landlord chi yw rhagofalu i atal Legionella rhag bod yn bresennol yn y system dŵr poeth neu oer, mae gan drigolion hefyd ran bwysig i’w chwarae wrth weithredu’r rhagofalon syml ac ymarferol hyn.

Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ymweld â’r wefan neu gysylltu â'ch Swyddfa Dai leol.