Cynllun gwella Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei fod wedi cwblhau ei raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

Y rhaglen flaenllaw hon yw'r buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn stoc tai’r Cyngor, gyda dros £260 miliwn yn cael ei wario ar welliannau i gartrefi a chymunedau tenantiaid.


Yn 2022/23 byddwn ni’n derbyn £7.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei wario ar gynlluniau gwella SATC.

Yn 2022/23 byddwn ni’n gwario £14.5 miliwn ar welliannau SATC.


Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)?

Set o safonau y mae’n rhaid i holl dai cynghorau a chymdeithasau tai Cymru eu cyflawni yw SATC. Mae’r safonau’n nodi y dylai pob cartref fod fel a ganlyn

  • mewn cyflwr da
  • yn ddiogel
  • wedi'i wresogi'n ddigonol
  • yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern
  • wedi’i reoli’n dda
  • wedi'i leoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
  • yn addas ar gyfer aelwydydd penodol

Polisi Cydymffurfio â SATC (pdf)

Mae rhaglen gwella amgylcheddol hefyd yn cael ei chyflwyno fel rhan o SATC sy'n edrych ar ardaloedd y tu allan i gwrtil cartrefi'r cyngor. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar raglen amgylcheddol SATC.


Dyma’r gwahaniaeth sy'n cael ei wneud i gartrefi tenantiaid a chymunedau lleol o ganlyniad i'n rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru.

Cartrefi Caerffili Cynllun Busnes (pdf)
 

Adborth o adolygiad defnyddwyr gwasanaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru

Yn 2018, cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad annibynnol o raglen y Cyngor o ran Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Fel rhan o'r adolygiad hwn, cynhaliwyd nifer o gyfweliadau ffôn â thenantiaid a phrydleswyr.


Cliciwch yma i gael trosolwg o ganlyniadau'r arolygon ffôn.

Cysylltwch â ni