Gwaith atgyweirio i dai preifat

Pwy sy’n gyfrifol am waith atgyweirio?

Yr hyn y mae’n rhaid i’ch landlord ei wneud

Eich landlord sy’n gyfrifol bob tro am y gwaith atgyweirio canlynol:

  • strwythur ac adeiladwaith allanol yr eiddo
  • basnau, sinciau, baddonau a gosodiadau glanweithdra eraill gan gynnwys pibellau a draeniau
  • offer gwresogi a dŵr poeth
  • offer nwy, pibellau, ffliwiau ac offer awyru
  • gwifrau trydanol
  • unrhyw ddifrod a achosir ganddynt drwy geisio gwneud gwaith atgyweirio

Fel arfer, eich landlord sy’n gyfrifol am wneud gwaith atgyweirio mewn ardaloedd cymunedol, megis grisiau mewn blociau o fflatiau. Dylai’r wybodaeth hon fod yn eich contract meddianaeth (cytundeb tenantiaeth).

Cyfrifoldebau’r deiliad contract (Tenant)

Dim ond os yw'r contract meddiannaeth yn dweud y gallwch chi wneud atgyweiriadau y dylech chi wneud hynny.

Nid oes modd eich gorfodi chi i wneud gwaith atgyweirio y mae eich landlord yn gyfrifol amdano.

Os ydych yn difrodi fflat arall, e.e. os bydd dŵr yn gollwng i fflat arall o fath sy’n gorlifo, chi sy’n gyfrifol am dalu am y gwaith atgyweirio.  Chi sydd hefyd yn gyfrifol am dalu i atgyweirio unrhyw ddifrod wedi’i achosi gan eich teulu a’ch ffrindiau.

Gwaith Atgyweirio – Canllaw i Landlordiaid a Thenantiaid (PDF 429kb)

Os bydd angen gwneud gwaith atgyweirio yn eich eiddo

Cysylltwch â’ch landlord os ydych o’r farn bod angen gwneud gwaith atgyweirio. Dylech wneud hynny ar unwaith ar gyfer namau a allai fod yn niweidiol i iechyd, megis gwifrau trydanol diffygiol. 

Dylech barhau i dalu eich rhent tra’n aros i waith atgyweirio gael ei wneud.

Dylai eich landlord ddweud wrthych pryd y caiff y gwaith atgyweirio ei wneud.

Os nad yw gwaith atgyweirio’n cael ei wneud

Cysylltwch â ni i gael help os nad yw eich gwaith atgyweirio’n cael ei wneud. Gallwn weithredu os ydym o’r farn y gallai’r problemau eich niweidio chi neu beri niwsans i bobl eraill.

Os nad yw eich cartref mewn cyflwr digon da i fyw ynddo

Os ydych o’r farn bod eich cartref yn anniogel, cysylltwch â’r adran tai sector preifat. Byddwn yn cynnal ‘asesiad System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)’ ac yn gweithredu os ydym o’r farn bod eich cartref yn peri peryglon difrifol o ran iechyd a diogelwch.

Diogelwch nwy

Bob blwyddyn mae tua 30 o bobl yn marw oherwydd gwenwyn carbon monocsid a achosir gan offer nwy a ffliwiau nad ydynt wedi’u gosod neu eu cynnal a’u cadw’n briodol. Mae llawer o bobl eraill yn mynd yn sâl oherwydd gwenwyn o’r fath hefyd. 

Mae Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 yn ymdrin yn benodol â gosod, cynnal a chadw a defnyddio offer nwy, gosodiadau a ffliwiau mewn eiddo domestig a rhai eiddo masnachol. Mae’r rheoliadau yn gosod dyletswyddau ar landlordiaid penodol i sicrhau bod offer nwy, gosodiadau a ffliwiau a ddarperir at ddefny dddeiliaid contract yn ddiogel.

Canllaw ar ddyletswyddau landlord: Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 (PDF)

Cysylltwch â ni