Rhentu preifat

Fe welwch fod mwy o dai o lawer ar gael yn y sector rhentu preifat na’r sector cymdeithasol (y Cyngor a chymdeithasau tai). Gan hynny bydd dewis ehangach o lawer ar gael i chi o ran y math o eiddo a’r ardal yr hoffech fyw ynddi. 

Mae’r rhenti’n dueddol o fod ychydig yn uwch yn y sector rhentu preifat, a bydd y rhan fwyaf o gontractau yn rhai “safonol”, yn hytrach na rhai wedi’u sicrhau.  Fodd bynnag, mae newidiadau deddfwriaeth newydd yn golygu bod deiliaid contract preifat yn gallu mwynhau rhywfaint o amddiffyniad.  Bydd rhai landlordiaid yn gofyn am fondiau a rhent ymlaen llaw, a bydd rhai asiantaethau yn codi tâl cyflwyno/tâl asiantaeth arnoch. Dylech fod yn ymwybodol y bydd rhai asiantaethau yn ymchwilio i’ch statws credyd. 

Mae nifer o gostau’n gysylltiedig â rhentu eiddo, a’r gost bwysicaf yw talu’r rhent. Os ydych ar incwm isel, mae’n bosibl y gallech gael help o ran hyn drwy hawlio budd-dal tai

Rydym hefyd yn cyhoeddi rhestr wythnosol y gellir ei lawrlwytho o asiantau gosod tai lleol.

Asiantau gosod tai preifat (PDF)

Cysylltwch â ni