FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Achredu landlordiaid

Rhentu Doeth Cymru – ydych chi’n cydymffurfio?

Hoffem atgoffa landlordiaid ac asiantau gydag eiddo yn Mwrdeistref Sirol Caerffili neu unrhyw ardal arall yng Nghymru bod pwerau gorfodi Rhentu Doeth Cymru ar waith bellach.   

Yn ôl cynllun Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i godi safonau yn y sector rhentu preifat, mae gofyn i bob landlord preifat gofrestru ei hun a'i eiddo. Rhaid i Landlordiaid ac Asiantau sy’n gosod neu reoli eiddo gael trwydded yn ogystal.

Ers 23 Tachwedd 2016 mae’r pwerau gorfodi mewn grym, a gallai landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio wynebu amrywiaeth o sancsiynau gan gynnwys erlyn, Hysbysiadau Cosb Benodedig, atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent.  

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Siriol Caerffili, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i amlygu’r rhai sy’n dal i beidio â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae Cynghorau bellach yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.

Os ydych chi’n landlord neu asiant sydd heb gydymffurfio eto, peidiwch ag oedi. Mae'n bwysig eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol nawr i gydymffurfio ac osgoi unrhyw weithredu.

Os ydych chi’n denant ac yn dymuno cadarnhau a yw’ch landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar-lein yma: https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/ 

Os nad yw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru yma: https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/contact

I gael rhagor o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru cysylltwch â https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/  neu ffoniwch 03000 133344

 

Cysylltwch â ni