Cynghori ar Eiddo Gwag

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i wefan ‘Caerffili – Yn Dda i Ddim yn Wag’.

Mae eiddo gwag yn cynrychioli adnodd gwastraff, cost ariannol ac mewn llawer o achosion, cyfle sy’n cael ei golli i ddarparu tai fforddiadwy y mae gwir eu hangen. Nid yn unig y maen nhw’n wastraff adnodd tai gwerthfawr, ond maen nhw’n gallu difetha’r gymuned ac achosi gofid i drigolion sy’n gorfod dioddef eu hedrychiad hyll a’u tueddiad i ddenu troseddu, fandaliaid, sgwatwyr, meddianwyr heb ganiatâd, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Hefyd, maen nhw’n gallu tynnu gwerth eiddo cyfagos i lawr ac maen nhw’n gostus iawn i’r Cyngor, yr Heddlu, yr Awdurdod Tân, a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol oherwydd yr amser a’r adnoddau sy’n cael eu gwario ar ddelio â’r problemau maen nhw’n eu creu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i weithio â pherchnogion eiddo gwag a darpar berchnogion i’w hannog i ddefnyddio eu heiddo unwaith eto a, lle bo’n bosibl, atal eiddo rhag dod yn wag yn y lle cyntaf.

Mae yna nifer o gynlluniau ar gael i helpu perchnogion i ddefnyddio eu heiddo gwag unwaith eto a nod y pecyn hwn yw rhoi i chi drosolwg ar ba gymorth sydd ar gael.

Fodd bynnag, os yw perchennog yn gwrthod cydweithredu neu’n rhwystrol, yna bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio’r amrywiaeth eang o gamau gorfodi ffurfiol sydd ar gael er mwyn defnyddio’r eiddo unwaith eto.

Camau gorfodi ffurfiol yw’r dewis olaf bob amser, ond mae’r Cyngor yn credu bod gadael eiddo i sefyll yn wag am gyfnodau hir pan mae prinder tai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol yn annerbyniol.