Gwasanaeth asiantaeth gwella’r cartref

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi gwasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol i bobl sydd wedi gwneud cais am grant neu fenthyciad tai. 

Prif nod y gwasanaeth hwn yw cymryd y cyfrifoldeb a’r pryderon sy’n gysylltiedig â threfnu gwaith atgyweirio a gwella tai oddi wrthoch chi, gan gael swyddogion medrus a phrofiadol i drefnu’r gwaith ar eich rhan chi. 

Mae rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Gwasanaeth sy’n hawdd i’w ddefnyddio a siop un stop
  • Cyngor ar gymhwysedd i gael grant a benthyciadau a’r gwaith priodol sydd angen ei wneud
  • Cymorth i lenwi pob ffurflen a dogfen sy’n ofynnol i wneud cais am grant neu fenthyciad
  • Manyleb o’r gwaith sydd angen ei gyflawni
  • Amcangyfrif o gost y gwaith
  • Cynlluniau a darluniau gwaith
  • Sicrhau Rheoliadau Adeiladu a Chaniatâd Cynllunio
  • Trefnu’r mathau eraill o ganiatâd sy’n ofynnol, megis cymeradwyaeth gan y morgeisai neu’r landlord
  • Cyngor ariannol ar waith nas ariennir drwy grant
  • Helpu i drefnu benthyciadau, benthyciadau aeddfedu, morgeisi ac ati yn ôl yr angen
  • Penodi adeiladwr o’r rhestr o adeiladwyr cymeradwy yn ôl yr angen
  • Trefnu contractau a darparu gwasanaeth rheoli contractau
  • Goruchwylio gwaith
  • Rheoli taliadau ariannol i gontractwyr
  • Trefnu llety dros dro, yn ôl yr angen
  • Diogelu rhag contractwyr diegwyddor

Cost y gwasanaeth

Wrth gynnig cymorth grant tai, rhoddir cymorth grant tuag at gost y gwasanaeth, sydd fel arfer yn golygu na ddylech dalu tâl ychwanegol am y gwasanaeth.

Wrth gynnig cymorth benthyciad, caiff lefel y ffi ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth hwn ei phennu ymlaen llaw drwy gytundeb. Cysylltwch â’r adran tai sector preifat am fanylion.

Cysylltwch â ni