Coronavirus - Tai

Er mwyn amddiffyn diogelwch pawb, mae rhai o'n swyddfeydd tai cyngor yn parhau i fod ar gau dros dro.

 

Serch hynny, rydym wedi cyflwyno cyfleoedd i gwsmeriaid gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â swyddogion tai i ddarparu cymorth ariannol a chymorth i denantiaid ar faterion sy'n ymwneud â thai mewn nifer o leoliadau cymunedol. Cysylltwch â 01443 866534 neu e-bostiwch SwyddfaCymorthTenantiaid@caerffili.gov.uk  i ddod o hyd i leoliad yn eich ardal chi ac i drefnu apwyntiad ar gyfer cymorth tenantiaeth neu fudd-dal lles.  Am apwyntiad rheoli tai, ffoniwch 01443 873535.

Hefyd:

  • Gall tenantiaid y Cyngor sydd angen rhoi gwybod am waith atgyweirio brys gysylltu â'r Tîm Atgyweirio Canolog yn ystod oriau swyddfa arferol drwy ffonio 01443 864886 yn ystod oriau swyddfa arferol neu e-bostio DLOPBE@caerffilli.gov.uk

  • Gellir rhoi gwybod am waith atgyweirio brys y tu allan i oriau swyddfa drwy ffonio 01443 875500 yn ystod oriau swyddfa arferol neu e-bostio cctv@caerffilli.gov.uk

  • I dalu rhent ac ati, tra bydd y swyddfeydd ar gau, ewch i Gwneud taliad.

  • Gall tenantiaid sy'n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i'r achosion o coronafeirws gael cyngor drwy ffonio ein llinell gymorth materion ariannol ar 01443 866534.

  • Mae cymorth ar gyfer ein tenantiaid hŷn a mwyaf agored i niwed yn parhau i gael ei ddarparu drwy'r Llinell Ofal. Mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu'r system hon, ac maen nhw'n gallu cyfeirio galwadau perthnasol at Swyddogion Tai sy'n gweithio o bell ar hyn o bryd.

  • Gellir gwneud unrhyw ymholiad tai cyffredinol sy'n ymwneud â thenantiaeth neu reoli ystad yn sdacwmrhymniuchaf@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 873535.
    Gellir gwneud ymholiadau Tai Sector Preifat, gan gynnwys grantiau a benthyciadau, safonau tai a materion gorfodi, ac addasiadau yn y sector cyhoeddus a phreifat yn https://www.caerffili.gov.uk/TaiPreifat, neu drwy ffonio 01443 811378 neu 811379.

Cefnogi pobl

Er gwybodaeth i chi, hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’r Tîm Cefnogi Pobl ar gael i helpu trigolion ag unrhyw anghenion cymorth yn ymwneud â thai.

Cysylltwch â ni os oes angen help neu gyngor arnoch gydag unrhyw un o'r canlynol:

  • Sefydlu a chynnal cartref
  • Atal troi allan/ôl-ddyledion rhent/treth ystafell wely/ôl-ddyledion treth y cyngor/dirwyon trwydded deledu
  • Cael addysg/gwirfoddoli/hyfforddiant/cyflogaeth
  • Hawlio budd-daliadau/cynyddu incwm/apeliadau budd-daliadau/ceisiadau am grantiau
  • Cyllidebu/rheoli arian/rheoli dyledion
  • Atal digartrefedd