Benthyciadau Perchen-feddianwyr

Mae'r rhain yn fenthyciadau di-log sydd ar gael i berchen-feddianwyr i wneud gwelliannau eiddo hanfodol a / neu waith i wneud cartrefi'n saff, yn gynnes ac yn diogel.

Pwy all wneud cais?

Gall perchnogion tai cymwys ym mwrdeistref sirol Caerffili wneud cais; ar yr amod eu bod yn berchen arnynt ac yn byw yn yr eiddo y mae angen benthyciad arnynt ar ei gyfer, neu yn achos eiddo gwag, yn meddiannu'r eiddo pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Os bydd derbynnydd y benthyciad yn marw, peidio â meddiannu'r eiddo neu’n trosglwyddo / gwerthu'r eiddo cyn i'r tymor benthyciad ddod i ben, caiff y benthyciad ei ad-dalu ar unwaith.

Faint allaf fenthyg?

Mae benthyciadau ar gael o £1,000 i £35,000, gyda chyfnod benthyciad mwyaf o 10 mlynedd.

Sut i wneud cais

Oherwydd materion yn ymwneud â'r pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio'r cartref. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y system yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl.

Fodd bynnag, mae benthyciadau di-log ar gael i berchen-feddiannwyr a landlordiaid er mwyn gwneud atgyweiriadau i'ch eiddo. Os hoffech chi ymholi am y rhain, ffoniwch 01443 811378 neu ddilyn y ddolen hon i gael y ffurflen ymholiadau ar-lein

Gwneud cais am benthyciad gwella cartrefi >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym! 

Cysylltwch â ni