Grantiau addasu

Cynigir grantiau addasu yn ôl disgresiwn y Cyngor, ac maent ar gael i berchen-feddianwyr a landlordiaid sector preifat achrededig er mwyn creu llety hunangynwysedig drwy addasu’r canlynol:

  • addasu llety annomestig yn llety domestig
  • addasu llety domestig yn unedau llai o faint o lety domestig
  • addasu llety defnydd cymysg yn llety domestig
  • addasu fflatiau un ystafell amlfeddiannaeth yn dai

Dim ond pan fo’r Cyngor o’r farn bod y cynnig yn briodol i ddiwallu anghenion tai ac anghenion cyffredinol ardal y bydd grantiau addasu ar gael.

Faint o grant fyddaf yn ei gael?

Mae’r grantiau hyn yn amodol ar gyfraniad o 50% gan y landlord, a gellir rhoi uchafswm grant o £15,000 fesul uned llety a ddarperir.

Ar gyfer perchen-feddianwyr mae’r cyfraniadau’n seiliedig ar brawf modd a darperir uchafswm grant o £15,000 fesul uned llety a ddarperir.

Rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio ag amodau’r grant am 10 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith sy’n derbyn cymorth grant.

Sut i wneud cais

Oherwydd y pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio cartrefi ac ymholiadau newydd ar gyfer yr holl gynhyrchion benthyciadau tai o 22 Hydref 2020. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y systemau'n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl.

Cysylltwch â ni