Dywedoch chi, gwnaethom ni 

Ymgynghoriad Rhent 2021

Cawsom ni 373 o ymatebion i'r arolwg, Eich Rhent - Eich Barn, yn ystod hydref 2021. Gwnaethom ni hefyd bostio 4 arolwg ar Facebook a chynnal 2 grŵp trafod ar-lein gyda thenantiaid. Roedd yr holl adborth rydych chi wedi'i roi i ni yn ddefnyddiol iawn. Un o'r pethau rydych chi wedi'i ddweud wrthym ni oedd yr hoffech chi wybod sut y caiff eich arian rhent chi ei wario. Rydyn ni'n mynd i ddarparu'r wybodaeth hon i chi bob blwyddyn gan ddechrau yn 2023.

Bartneriaeth Gwella Tai 

Mae'r Bartneriaeth Gwella Tai yn grŵp o denantiaid sy'n gweithio gyda ni i wella gwasanaethau tai. Mae'r Bartneriaeth yn canolbwyntio ar brofiadau go iawn tenantiaid a lesddeiliaid pan fyddant yn gofyn am wasanaeth gan Caerffili Cartrefi ac yn ei dderbyn.
 
Dyma rai o'r gwasanaethau y mae'r Bartneriaeth wedi'u hadolygu.

Cymorth fel y bo'r Angen

Fe ddywedoch chi…
“Rydw i eisiau gwybod y byddwch chi yno i fy helpu cyhyd ag y bydd arnaf eich angen chi.”
“Cyn i chi adael, rydw i eisiau i chi sicrhau fy mod i’n deall beth sy’n digwydd nesaf/beth y gallai fod angen i mi ei wneud.”
“Rydw i eisiau i chi roi gwybod i mi pryd y byddwch chi'n ymweld â mi nesaf.”
 
Yr hyn a wnaethom...
Rydyn ni bellach yn cwblhau cynllun gweithredu pan ymwelwn ni â chi. Mae'n dweud wrthych chi pryd mae'ch apwyntiad nesaf, sut rydyn ni wedi'ch helpu chi yn ystod yr ymweliad (e.e. helpu gyda'ch cais Taliad Annibyniaeth Personol, ffonio'ch cyflenwr cyfleustodau), a beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf. Mae hefyd yn gadael i chi wybod beth gallai fod angen i chi ei wneud cyn ein hymweliad nesaf. Mae'r cynllun hwn yn cael ei adael gyda chi fel bod gennych chi eich cofnod eich hun.

 

Caniatâd landlord

Fe ddywedoch chi…
“Rydw i eisiau gwneud fy nghais gan ddefnyddio’r sianel gyfathrebu o fy newis.”
 
Yr hyn a wnaethom...
Nawr, gallwch chi siarad â'ch swyddog tai (pan fyddan nhw'n ymweld â chi), galw i mewn i'ch swyddfa tai lleol, ffonio, ysgrifennu neu e-bostio'ch cais am ganiatâd.

Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth

Fe ddywedoch chi…
“Rydw i eisiau i chi ddweud wrthyf fi pwy fydd yn ymweld â fi a gwrando arnaf fi os bydd yn well gennyf fi pwy sy'n ymweld.”
 
Yr hyn a wnaethom...
Nawr, pan fyddwn ni'n trefnu apwyntiad Swyddog Cymorth Tenantiaeth gyda chi, byddwn ni'n dweud wrthych chi enw'r swyddog a fydd yn ymweld â chi ac yn trafod gyda chi os yw'n well gennych chi pwy sy'n ymweld.

Adennill Incwm (Rhenti)

Fe ddywedoch chi…
“Drwy gydol y broses, rydw i eisiau i chi ddefnyddio iaith rydw i'n ei deall”
“Rydw i eisiau i chi egluro’n glir pam mae rhywbeth wedi digwydd a beth allaf i ei wneud i ddatrys y broblem neu ei thrwsio"
 
Yr hyn a wnaethom...
Rydyn ni wedi newid ein llythyrau i'w gwneud yn gliriach ac yn haws eu deall.


Cyflwynwyd y newidiadau hyn i wasanaethau cyn y pandemig, felly rydyn ni'n cydnabod nad dyma sut y mae ar hyn o bryd.
 
A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r Bartneriaeth Gwella Tai a'n helpu i wella gwasanaethau? Os felly, cysylltwch â ni.

Teleofal

Gwasanaeth monitro sy’n cynnig cymorth o bell i bobl a allai fod yn oedrannus, yn anabl neu’n agored I niwed yw Teleofal. Bydd defnyddwyr yn derbyn uned larwm, tlws crog a botwm argyfwng a monitor 24/7 gan dimau arbenigol. Gall helpu pobl I gadw eu hannibyniaeth a’u hyder gartref.
 
Ym mis Chwefror 2019, cynhaliwyd digwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth i Denantiaid lle siaradodd ein harbenigwyr Teleofal a thenantiaid am fanteision y gwasanaeth. Darparon nhw lawer o wybodaeth ddefnyddiol, ac wedi dangos pa mor syml oedd y cyfarpar i’w ddefnyddio.
 
Ar ol y digwyddiad, gwnaethom recriwtio gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn blaenbrawf er mwyn profi dyfeisiadau Teleofal newydd sydd ar gael. Roedd y Tim Teleofal eisiau cael dealltwriaeth drylwyr o sut roeddent yn gweithio er mwyn pennu p’un o’r dyfeisiau newydd fyddai fwyaf addas i ddiwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth.

Digwyddodd y blaenbrawf dros yr haf. Hoffai Cyngor Caerffili ddiolch i’r gwirfoddolwyr – rydynni’n ddiolchgar iawn am eich help. Mae’r blaenbrawf wedi rhoi mewnwelediad da i’r staff gosod o ran sut y gallwn ddefnyddio’r offer i helpu ein tenantiaid mewn angen yn llwyddiannus.  Os hoffech chi wybod rhagor am Teleofal, a sut y gallai eich helpu chi, ffoniwch 01443 873663 neu anfon e-bost i LlinellOfalCaerffili@caerffili.gov.uk

Adolygwyr Cadair Freichiau 

Ebrill 2019 – Taflen Cydgyfnewid

Gofynnon ni i'n hadolygwyr cadair freichiau roi adborth ar daflen newydd a oedd yn cael ei chynhyrchu i egluro'r broses Cydgyfnewid.
 
Dywedoch chi…roedd peth o eiriad a chynllun y testun yn ei gwneud hi'n anodd deall rhannau o'r wybodaeth.
 
Gwnaethon ni…ddiwygio'r daflen i adlewyrchu'r awgrymiadau o'r adborth a roddwyd.

Gaeaf 2019 – Cylchlythyr Cartrefi Caerffili Rhifyn 14

Gofynnon ni i'n hadolygwyr roi adborth ar rifyn diweddaraf Cylchlythyr Cartrefi Caerffili.
 
Dywedoch chi…roedd y lliwiau ar dudalen 10 yn ei gwneud yn anodd darllen y cynnwys.
 
Gwnaethon ni…newid y lliwiau fel bod tudalen 10 yn haws ei darllen.

Os hoffech chi fod yn Arolygydd Cadair Freichiau, cysylltwch â ni er mwyn i ni ddarparu rhagor o wybodaeth i chi.

 

Cysylltwch â ni