Cynnwys tenantiaid
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod tenantiaid yn cael mynegi barn ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, eu cartrefi a’r ardaloedd maent yn byw ynddynt. Rydym am rymuso tenantiaid i gymryd rhan ar lefel sy’n addas iddynt hwy. Gwnawn hyn drwy gynnig ystod o gyfleoedd i denantiaid gymryd rhan a thrwy gefnogi grwpiau tenantiaid a phreswylwyr.
Ffyrdd o gymryd rhan
Yn galw holl denantiaid Cartrefi Caerffili. Yn ystod y cyfnod anarferol hwn, rydyn ni'n dal wedi ymrwymo i'ch cynnwys chi wrth ddatblygu a siapio gwasanaethau Tai yn y dyfodol.
Hoffech chi rannu eich barn fel y gallwn ni sicrhau bod tenantiaid yn aros wrth galon popeth a wnawn? Does dim rhaid i chi adael eich cartref hyd yn oed i wneud hynny! O ddiddordeb i chi? Cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru.
Fel diolch bach am gofrestru, byddwch chi'n cael eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl i ennill talebau siopa ar-lein gwerth £25.
Gymryd rhan
Rydym yn gweithio’n barhaus i ddatblygu ffyrdd newydd i denantiaid gymryd rhan, felly os nad oes dim o’r uchod yn addas i chi, mae croeso i chi gysylltu â ni i ddweud wrthym beth fyddai’n addas i chi!
Adolygiad Rhent a Fforddiadwyedd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i denantiaid fynegi'u barn ynghylch a ydyn nhw'n credu bod eu rhent yn deg, fforddiadwy ac os yw'r gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn yn rhoi gwerth am eu harian. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor fel rhan o'i adolygiad rhent a fforddiadwyedd, a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddylanwadu ar sut mae'n gosod rhent yn y dyfodol.
Gofynnir i denantiaid fynegi'u barn trwy lenwi arolwg byr ar-lein y mae modd dod o hyd iddi ar wefan y Cyngor.
Bydd yr arolwg yn gorffen ddydd Mawrth 15 Rhagfyr. Bydd pob tenant sy'n cymryd rhan ac yn darparu eu manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill talebau siopa'r stryd fawr gwerth £50.
-
Partneriaeth Gwella Tai - Mae'r Bartneriaeth Gwella Tai’n cynnwys tenantiaid sydd am weithio gyda ni i wella gwasanaethau tai. Nid oes angen unrhyw sgiliau arbenigol. Y cyfan sydd ei angen arnom yw eich gwybodaeth a'ch profiad fel tenant Tai Caerffili. Os gallwch chi wario ychydig oriau'r mis am 6 mis o'r flwyddyn, cysylltwch â ni. Bydd yr holl dreuliau rhesymol yn cael eu talu.
-
Adolygwyr y cylchlythyr - Adolygwyr y cylchlythyr yw tenantiaid sy’n rhoi adborth i ni ar gylchlythyr Cartrefi Caerffili a’r ffyrdd eraill rydym yn cyfathrebu â thenantiaid, gan gynnwys ein gwefan, a gallant wneud hynny oll o’u cartrefi eu hunain! Bob tro y bydd Adolygwr yn rhoi adborth i ni, bydd ganddo gyfle i ennill taleb siopa stryd fawr gwerth £25! Adolygwyr y clychythyr pdf
-
Cyfnewidfa Gwybodaeth Tenantiaid - Sesiwn anffurfiol yw hon lle gall tenantiaid ddarganfod mwy am sut mae Tai a thenantiaid Caerffili yn cydweithio i wella gwasanaethau tai. Mae’n gyfle da i gwrdd â thenantiaid eraill a siarad â hwy hefyd. Cysylltwch â ni i gael gwybod pryd y cynhelir y gyfnewidfa nesaf.
-
Grŵp Gorchwyl Cartrefi Caerffili - Bu’r Grŵp Gorchwyl yn cyfarfod ers Medi 2012 gan ystyried adroddiadau ar y gwasanaeth tai a rhaglen wella Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae’r Grŵp Gorchwyl yn gyfrifol am fonitro’r holl addewidion a wnaed i denantiaid yn ystod y broses o fwrw pleidlais ar drosglwyddo’r stoc dai, gan gael gwybodaeth am weithrediad y gwasanaeth tai o ddydd i ddydd a gwneud argymhellion o ran newid neu wella gwasanaethau. Mae lle i saith o tenant ar y Grŵp Gorchwyl, a dyrennir y lleoedd hynny i bobl o ardaloedd gwahanol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth o bob rhan o’r fwrdeistref sirol. Ceir dau aelod o Flaenau Cwm Rhymni, dau aelod o Gwm Rhymni isaf a thri aelod o’r Cymoedd Dwyreiniol. Nominations for Task Group members are taken every 4 years.
-
Monitoriaid Gwella Gwasanaethau Caerffili - Grŵp o denantiaid sydd wedi cael hyfforddiant i gyflawni arolygon gyda thenantiaid eraill. Ar hyn o bryd maent yn cyflawni arolygon gyda thenantiaid y cyflawnwyd gwelliannau o ran Safon Ansawdd Tai Cymru yn eu cartrefi.
-
Grŵp Atgyweirio a Gwella - Gweithgor o denantiaid a swyddogion yn cydweithio i wella atgyweiriadau a gwelliannau i bob tenant. Maent yn edrych yn fanwl ar raglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a'r gwasanaeth ymateb atgyweirio.
I ddarganfod mwy am sut gallwch chi gymryd rhan cysylltwch â’r Tîm Cynnwys Tenantiaid a’r Gymuned.
Hyfforddiant
Felly, rydych wedi penderfynu yr hoffech gymryd rhan, ond nid ydych yn sicr a ydych yn meddu ar y profiad a’r sgiliau i wneud hynny? Gallwn gynnig sesiynau hyfforddi am ddim i'ch cefnogi a'ch helpu i fod yn rhan o Dai Caerffili, tra hefyd yn adeiladu'ch sgiliau. Bydd mynychu cyrsiau hyfforddi nid yn unig yn cynyddu eich gallu i wneud gwahaniaeth go iawn, ond fe all gynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth a rhoi hwb i'ch hyder hefyd.
Canllaw hyfforddiant (PDF)
Treuliau a theithio
Byddwn yn ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei wario ar deithio yn ôl a ‘mlaen i gyfarfodydd. Os nad oes car gennych, byddwn yn gwneud trefniadau i’ch cludo yno. Byddwn yn talu costau gofal hefyd os oes angen gofalu am rywun tra byddwch yn mynychu cyfarfodydd.
Llyfryn treuliau gwirfoddolwyr (PDF)
Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid
Ein pwrpas strategol yw cael 'gwasanaethau sy'n cael eu gyrru gan denantiaid, sy'n gwella'n barhaus'. Mae ein strategaeth yn nodi sut yr ydym yn anelu at gyflawni hyn drwy ddarparu ystod o gyfleoedd i denantiaid ymgysylltu â ni, gan roi eu barn a'n helpu ni i wella gwasanaethau'n barhaus.
Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid 2016-2019 (PDF)