Taliadau tai dewisol

Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu yn derbyn elfen costau tai Credyd Cynhwysol ond yn dal yn ei chael hi'n anodd talu eich rhent, efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol trwy wneud cais am Daliad Tai Dewisol (DHP).

Mae'r arian sydd ar gael dan y cynllun hwn yn gyfyngedig a gallwn ond helpu trigolion sydd ei angen fwyaf. Fel arfer byddwn ond yn dyrannu TTD am gyfnod cyfyngedig, wedyn mae'r penderfyniad yn cael ei hail-asesu.

Darganfyddwch ragor am ein Polisi taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.

Sut i wneud cais

Gallech ond hawlio am Daliad Tai Dewisol os ydych yn hawlio budd-dal tai ar hyn o bryd neu'n derbyn elfen dai Credyd Cynhwysol.

Er mwyn gwneud cais am TTD bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais. I ofyn am ffurflen, ffoniwch 01443 866567.

Sut ydym yn penderfynu pwy sy'n cael TTD?

Mae pob cyngor yn derbyn swm penodol bob blwyddyn gan y Llywodraeth i dalu TTDau neu yn derbyn elfen dai Credyd Cynhwysol  

Mae'r pethau canlynol yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad:

  • cyfanswm eich incwm wythnosol
  • cyfanswm eich treuliau wythnosol
  • a oes gennych unrhyw gynilion
  • os gall unrhyw un arall yn y cartref helpu'n ariannol
  • os oes gennych unrhyw fenthyciadau ar gyfer dyledion i'w talu o hyd
  • p'un a allech chi ail-drefnu unrhyw ran o'ch arian i helpu'r sefyllfa
  • os oes gennych chi neu'ch teulu unrhyw broblemau iechyd neu anabledd arbennig
  • p'un a ydych wedi ceisio i ddatrys y sefyllfa eich hun

Faint o TTD gallaf gael, sut y caiff ei dalu ac am faint?

Mae'n dibynnu ar eich amgylchiadau gan fod pob achos yn cael ei ystyried yn unigol ac mae'r TTDau yn cael eu talu am wahanol gyfnodau o amser. Os byddwn yn penderfynu y gallwn wneud taliad, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint o arian y byddwch yn derbyn ac am faint.

Hyd yn oed os ydych yn derbyn help, ni all y swm a ddyfernir fod yn fwy na chyfanswm eich rhent, llai unrhyw swm ar gyfer taliadau nad ydynt yn gymwys.

Os ydych yn llwyddiannus, caiff TTDau eu talu gyda'ch budd-dal tai arferol.

Apeliadau

Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad ynghylch cais am TTD gallwch ofyn i ni edrych ar y mater eto. Bydd angen i chi wneud hyn yn ysgrifenedig o fewn un mis o ddyddiad y llythyr penderfyniad gan nodi'n glir y rhesymau pam rydych yn anghytuno.

Ni allwch apelio i'r gwasanaeth apeliadau ynghylch penderfyniad TTD.

Beth os bydd fy amgylchiadau yn newid?

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym am y peth ar unwaith. Ewch i'n hadran newid mewn amgylchiadau am fanylion pellach.

Os ydych eisoes yn hawlio TTD, gall hyn olygu bod angen newid eich hawliad ac os nad ydych yn hawlio TTD ar hyn o bryd, gallai'ch newid mewn amgylchiadau olygu eich bod bellach yn gymwys i gael cymorth. 

Cysylltwch â ni