Gwneud apêl

Os ydych wedi derbyn penderfyniad am fudd-dal tai sydd, yn eich barn chi yn anghywir, gallwch gysylltu â ni:

  • er mwyn gofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto
  • er mwyn gofyn i ni egluro'r penderfyniad
  • apelio at Dribiwnlys Annibynnol i edrych ar y penderfyniad eto

Rhaid i chi ysgrifennu atom o fewn un mis o'r dyddiad ar y llythyr penderfyniad. Bydd swyddog gwahanol yn edrych ar y penderfyniad eto i weld a yw'n gywir.

Os gall y penderfyniad gael ei newid, byddwn yn anfon llythyr yn egluro'r penderfyniad newydd atoch. Os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad newydd gallwch ofyn i ni edrych arno eto.

Os na all y penderfyniad gael ei newid, byddwn yn anfon llythyr yn esbonio pam.

Mae'r llyfryn canlynol yn egluro mwy am y broses apelio ac mae ganddo ffurflen y gallwch ei defnyddio.

Llyfryn apeliadau budd-dal (PDF 798KB)

Apeliadau hwyr

Os ydych y tu allan i'r terfyn amser o fis gallwch wneud cais hwyr am apêl. Y terfyn amser uchaf ar gyfer apêl hwyr yw 13 mis o ddyddiad y penderfyniad.

Wrth ofyn am apêl hwyr, bydd angen i chi esbonio pam ei bod yn rhesymol caniatáu eich cais a pham mae gan eich achos deilyngdod a chynnwys manylion unrhyw amgylchiadau arbennig a rwystrodd chi rhag cyflwyno'ch apêl yn gynt.

Mae'n bwysig pwysleisio nad oes gwarant y bydd y Tribiwnlys yn derbyn apeliadau a gyflwynir y tu allan i'r terfyn amser o fis.

Cysylltwch â ni