Bin gwyrdd neu ddu

Stay Connected

Gallwch nawr  gofrestru am rybuddion e-bost i gael gwybod am newidiadau i'ch casgliad bin a'ch newyddion ailgylchu. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion arall y cyngor.

Defnyddiwch eich bin gwyrdd (neu weithiau bin du) ar gyfer y sbwriel na allwch ei ailgylchu na’i gompostio. Caiff ei wagio bob wythnos.

Gall y bin gael ei ddefnyddio i waredu’r eitemau canlynol:

  • Cewynnau tafladwy (Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth casgliad gwastraff cewynnau ychwanegol ar gyfer teuluoedd mwy o faint. Ewch i adran casglu gwastraff cewynnau am fanylion.)
  • Gwydr wedi’i dorri
  • Bagiau siopa
  • Teganau wedi’u torri
  • Olew coginio
  • Polisteirin
  • Ffilm plastig
  • Gwastraff anifeiliaid anwes
  • Lludw oer

Peidiwch â defnyddio’r bin hwn ar gyfer:

  • Dillad
  • Unrhyw beth y gellir ei gompostio
  • Gwastraff bwyd
  • Gwastraff gardd
  • Cerrig, rwbel, pridd neu ddeunyddiau adeiladu
  • Darnau ceir neu fatris
  • Olew injan, paent neu gemegau
  • Canghennau coed
  • Deunyddiau asbestos
  • Lludw poeth
  • Unrhyw beth sy’n rhy fawr i’w roi yn y bin
  • Gwastraff clinigol neu nodwyddau hypodermig

I ble mae’r gwastraff yn mynd?

Mae popeth rydych yn gosod yn y bin hwn yn cael eu cymryd i Viridor, Parc Trident, sef cyfleuster ynni o wastraff Caerdydd. Ewch i adran Prosiect Gwyrdd am fanylion.