Cadi bwyd
Caiff eich cadi bwyd ei ddefnyddio ar gyfer yr holl wastraff bwyd, a chaiff ei wagio bob wythnos.
Gallwch roi’r bwyd canlynol yn y bin hwn:
- Ffrwythau
- Llysiau
- Bara wedi’i lwydo
- Bagiau te
- Plisgyn wy
- Cig a physgod
- Bwyd anifeiliaid anwes
- Esgyrn
- Cynnyrch llaeth
- Reis
- Pasta
- Gweddillion Bwyd
- Grawnfwydydd
Ni allwn ailgylchu:
- Olew coginio wedi’i ddefnyddio
Angen bin newydd?
Bydd angen dau gynhwysydd arnoch chi – cadi bach i'w gadw yn eich cegin a chadi mwy i'w storio y tu allan. Os nad oes gennych unrhyw un o'r cynwysyddion hyn, gofynnwch am un gennym ni heddiw yn rhad ac am ddim.
I ble mae’r gwastraff yn mynd?
I safle Bryn Compost, Gelligaer, lle mae cyfleusterau compostio caeedig.
Monitro cyfranogiad ar ailgylchu
O bryd i'w gilydd bydd yr adran rheoli gwastraff yn monitro cyfranogiad ar ailgylchu, gwastraff gweddilliol a gwastraff bwyd/gardd. Rydym wedi cwblhau ymarferiad monitro cyfranogiad gwastraff bwyd yn ddiweddar, ond yn y gorffennol wedi monitro ailgylchu i benderfynu pa eiddo sydd yn/neu ddim yn cymryd rhan. Gall gwastraff gweddilliol gael ei fonitro er mwyn sicrhau nad yw gwastraff ychwanegol neu amhriodol yn cael ei roi allan i'w gasglu. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn sicrhau y gallwn dargedu ein haddysg, cyngor ac arweiniad i drigolion a allai fod angen cymorth pellach, gyda lefelau priodol o orfodi os oes angen.