Canllaw Alffa i Omega o ran Gwastraff

Dylai'r rhestr A-Y ganlynol eich helpu i benderfynu ym mha gynhwysydd i roi eich eitemau ailgylchu a gwastraffu ynddo. Os oes eitem sydd heb ei rhestru yma yr hoffech ei chynnwys yn y rhestr A-Y, anfonwch neges atom a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon.

A | B | C | D | Dd | E | F | Ff | G | H | I | J | K | L | Ll | M | N | O | P | Ph | Q | R | Rh | S | T | Th | U | W | Y

A

Allweddi

Gallwch chi eu hailgylchu nhw fel metel sgrap yn y Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Amlenni

Gallwch chi eu hailddefnyddio nhw drwy lynu darn o bapur dros y cyfeiriad gwreiddiol. Gallwch chi eu rhoi nhw hefyd yn y bin ailgylchu.

 
Asbestos

Gall preswylwyr tai (ond nid contractwyr busnes) cymryd asbestos i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartrefi yn Penallta. Uchafswm o 6 bag neu ddalen. Dylid ymgynghori â chontractwyr arbenigol.

B

Bagiau siopa

Ailddefnyddiwch fagiau siopa ar gyfer tripiau siopa. Hefyd, mae gan archfarchnadoedd gynlluniau ailgylchu bagiau siopa.

Batris

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Batris ceir

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi – rhaid cyrraedd mewn car. Ni fydd masnachwyr yn cael gwaredu batris ceir.

Beiciau

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Bocsys wyau

Gellir gosod bocsys wyau cardfwrdd yn y bin ailgylchu.

Bwrdd plastr

Gallwch chi fynd â bwrdd plastr i safleoedd Penallta a Y Lleuad Lawn.
Aelodau o gartrefi yn unig only – dim adeiladwyr/contractwyr. Uchafswm o 6 bag.

Bwyd

Rhowch fwyd yn y cadi gwastraff bwyd i ni ei gasglu.
Nadolig – byddwn ni'n casglu gwastraff bwyd ychwanegol, ond, rhaid iddo fod mewn bag, a'r bag hwnnw wedi'i osod ar ben eich cadi.

Bylbiau goleuadau

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

C

Cambrenni dillad

Mae'n bosibl y bydd rhai siopau elusen yn eu derbyn nhw. Fel arall, rhowch nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.

Caniau

Rhowch ganiau/tuniau alwminiwm a dur glân yn y bin ailgylchu.

Cardbord

Rhowch gerdyn tenau glân (megis bocsys cardbord bach a bocys grawnfwyd) yn y bin ailgylchu.

Cardiau cyfarch 

Bin ailgylchu

Cardiau Nadolig

Rhowch gardiau papur yn y bin ailgylchu. Nid oes modd ailgylchu addurniadau (megis rhubanau neu gliter), felly, rhwygwch y darnau hynny i ffwrdd yn gyntaf. Hefyd, yn achos cardiau cerdd, tynnwch unrhyw fatris a chael gwared arnyn nhw yn y Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Carpedi

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi neu drefnu iddyn nhw gael eu casglu fel gwastraff swmpus.

Cartonau (Tetrapak)

Y Lleuad Lawn

Casetiau fideo

Bin gwastraff cyffredinol

CDau

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Cerrig

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi 

Cetris inc

Bin gwastraff cyffredinol.
Mae rhai ysgolion yn ailgylchu cetris inc – fel arall, mae rhai gwneuthurwyr yn cymryd cetris wedi'u defnyddio yn ôl i'w hailgylchu. .

Cewynnau

Bin gwastraff cyffredinol.

Clymog Japan a phlanhigion/chwyn goresgynnol eraill

Bin gwastraff cyffredinol – ychydig bach ar y tro.

Coed

Mae modd casglu darnau coed hyd at bum troedfedd gan ddefnyddio'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus (noder – rydyn ni'n codi tâl am y gwasanaeth hwn) neu gallwch chi fynd â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi i'w compostio.

Coed Nadolig (ffug)

Bin gwastraff cyffredinol neu'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Coed Nadolig (go iawn)

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi neu torrwch nhw'n ddarnau hawdd eu trin a'u rhoi nhw yn y man casglu gwastraff o'r ardd.

Cyfrifiaduron

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Cylchgronau

Bin ailgylchu

D

Dail

Gallwch chi eu compostio nhw neu eu rhoi nhw yn y bag gwastraff o'r ardd ar gyfer y gwasanaeth casglu wythnosol.

Darnau ceir

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi – rhaid cyrraedd mewn car. Ni fydd masnachwyr yn cael gwaredu darnau ceir. 

Deunyddiau adeiladu

Bydd y Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi yn derbyn ychydig bach o ddeunyddiau adeiladu o'r cartref (llai na phum bag) yn rhad ac am ddim – rhaid cyrraedd mewn car. Ni fydd masnachwyr yn cael gwaredu deunyddiau adeiladu.

Dillad

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi. Os yw'r dillad mewn cyflwr gwael, trowch nhw'n gadachau. 

 
Dodrefn

Bydd eitemau y mae modd eu hailddefnyddio yn cael eu derbyn gan The Furniture Revival a Siop Ailddefnyddio Penallta.
 
Os ydyn nhw mewn cyflwr gwael, trefnwch iddyn nhw gael eu casglu fel gwastraff swmpus os ydyn nhw'n rhy fawr i chi fynd â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Dodrefn ystafell ymolchi

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Drymiau cemegion

HAZ REM Environmental neu ddarparwyr gwaredu gwastraff peryglus lleol eraill. 

E

Eitemau trydanol

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Erosolau

Gallwch chi roi caniau diaroglyddion erosol gwag yn y bin ailgylchu. Rhowch ganiau paent chwistrellu gwag yn y bin gwastraff cyffredinol.

Esgidiau

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Ff

Ffwyl

Rhowch hambyrddau bwyd ffoil glân, casys peis ffoil glân a phapur arian glân yn y bin ailgylchu. Rhowch ffoil brwnt yn y bin gwastraff cyffredinol.

Ffyrnau

Bydd ffyrnau trydan mewn cyflwr da yn cael eu derbyn gan The Furniture Revival. Os nad oes modd ailddefnyddio'r ffwrn, trefnwch iddi gael ei chasglu fel gwastraff swmpus, neu fynd â hi i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

G

Gemwaith

Rhowch nhw i siopau elusen neu eu gwerthu nhw.

Gwasarn anifeiliaid anwes (llwch llif)

Gallwch chi roi ychydig ohono yn y bin gwastraff cyffredinol.

Gwastraff clinigol

Gwasanaeth Iechyd Gwladol
 
I drefnu casgliadau ar gyfer yr wythnos wedyn, ffoniwch 0300 123 9208 neu anfon e-bost i nwssp_hcscontrolhub@wales.nhs.uk cyn dydd Iau 5pm.

Gwastraff gwyrdd/o'r ardd

Rhowch ddail, blodau marw, toriadau gwair, chwyn, brigau, toriadau perthi a llwyni bach yn y bag gwastraff o'r ardd ar gyfer y gwasanaeth casglu wythnosol wrth ymyl y ffordd.

Gwastraff masnachol

Mae gwasanaeth casglu yn cael ei gynnig gan yr Awdurdod. Fel arall, mae contractwyr sector preifat ar gael.

Gwastraff peryglus

Dylech chi ymdrin â hwn yn ofalus. Os na allwch chi fynd â'r gwastraff i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi, bydd angen i chi drefnu gwaredu gyda chwmni preifat trwyddedig ag enw da.

Gwelyau/Dillad gwely

Bydd The Furniture Revival yn derbyn gwaelodion gwelyau. Os ydyn nhw mewn cyflwr gwael, ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi neu drefnu iddyn nhw gael eu casglu fel gwastraff swmpus.

Gwydr (canhwyllau)

Bin gwastraff cyffredinol

Gwydr (ffenestri/dalenni gwydr)

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Gwydr (jariau – gan gynnwys caeadau metel)

Bin ailgylchu

Gwydr (poteli)

Bin ailgylchu

Gwydr wedi torri

Bin gwastraff cyffredinol

H

Hancesi papur

Bin gwastraff cyffredinol

J

Jig-sos

Rhowch nhw i siopau elusen, Siop Ailddefnyddio Penallta, cartrefi preswyl neu ysgolion.

Ll

Llestri

Gwerthwch nhw neu rhowch nhw i elusen. Os yw'r llestri wedi torri, lapiwch nhw a'u rhoi nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.

Lludw (tanau glo a stofiau sy'n llosgi coed)

Gadewch i'r lludw oeri. Yna, rhowch y lludw mewn bagiau, a rhoi'r bagiau yn y bin gwastraff cyffredinol

Llyfrau

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

M

Meddyginiaethau/Tabledi (poteli)

Ewch â nhw'n ôl i'r fferyllfa neu feddygfa. Fel arall, rhowch nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.

Meddyginiaethau/Tabledi (stribedi – heb eu defnyddio)

Ewch â nhw'n ôl i'r fferyllfa neu feddygfa. Fel arall, rhowch nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.

Meddyginiaethau/Tabledi (stribedi – wedi eu defnyddio)

Ewch â nhw'n ôl i'r fferyllfa neu feddygfa. Fel arall, rhowch nhw yn y bin ailgylchu.

Metel (sgrap)

Cynhwysydd metel sgrap yn un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

O

Oergelloedd/Rhewgelloedd 

Mae The Furniture Revival yn cynnig gwasanaeth casglu am gost fach.

Offer chwaraeon

Gwerthwch nhw, neu rhowch nhw i elusennau neu grwpiau ieuenctid/cymunedol lleol.

Offer y gegin

Mae'n bosibl y bydd offer y gegin y mae modd eu hailddefnyddio yn cael eu derbyn gan The Furniture Revival. Fel arall, gwerthwch nhw neu ewch â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Olew (gan gynnwys olew injan)

AberbargoedPenalltaTrehir a Rhymni.

P

Pacedi creision

Bin gwastraff cyffredinol

Paent

Canolfannau Ailgylchu i Gartref

Papur

Bin ailgylchu

Papur (wedi rhwygo)

Gallwch chi roi ychydig ohono yn y bin ailgylchu.
Gallwch chi roi rhagor mewn bagiau clir wrth ymyl y bin.

Papur lapio (lapio anrhegion)

Gallwch chi roi papur lapio yn y bin ailgylchu.
Rhowch bapur lapio sgleiniog yn y bin gwastraff cyffredinol.

Papur swigod

Bin gwastraff cyffredinol

Papurau newydd

Bin ailgylchu

Plastig caled

Rhowch blastig caled megis cambrenni dillad a bocsys yn y bin gwastraff cyffredinol

Plastig meddal

Rhowch eitemau plastig meddal, glân fel poteli diodydd a thybiau margarîn yn y bin ailgylchu.

Plisg wyau

Gallwch chi eu compostio nhw yn eich bin compost gartref neu eu rhoi nhw yn y cadi gwastraff bwyd.

Polystyren

Gallwch chi roi ychydig o bolystyren yn y bin gwastraff cyffredinol. Gall trigolion fynd â mwy ohono i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Post sothach

I atal post sothach, cysylltwch â'r gwasanaeth dewis post. Os byddwch chi'n dal yn cael y fath post, rhowch nhw yn y bin ailgylchu.

Potiau iogwrt

Bin ailgylchu

Pren

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Pridd

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

S

Sbectol

Mae rhai optegwyr yn derbyn hen sbectol yn ôl. Fel arall, rhowch nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.

Silindrau nwy

Gellir mynd ag uchafswm o 3 potel i Y Lleuad Lawn a Penallta.

Stampiau

Mae nifer o elusennau yn derbyn stampiau sydd wedi eu defnyddio. Fel arall, rhowch nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.

T

Tecstilau

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Teganau

Gwerthwch nhw, rhowch nhw i elusen neu ewch â nhw i un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Teiars

Dylai gosodwyr teiars ddarparu gwasanaeth derbyn yn ôl wrth osod rhai newydd. Gall trigolion fynd â hyd at 10 teiar i'r Penallta.

Tetrapak

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Tiwbiau golau fflworoleuol

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Tuniau

Golchwch duniau i sicrhau eu bod nhw'n lân, a'u rhoi nhw yn y bin ailgylchu.

Twbâu twym

Cysylltwch â'r gwneuthurwr. Dylai'r gwneuthurwr gynnig cynllun dychwelyd.

Tyweirch

Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

W

Weips babanod

Bin gwastraff cyffredinol

Nodwch:

Mae'r Cyngor yn gweithredu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer preswylwyr i waredu ac ailgylchu amrywiaeth eang o ddeunyddiau gan defnyddio car. Nid yw’r safleoedd hyn ar gael ar gyfer gwastraff masnachol neu gontractwyr adeiladu.

Mae system drwyddedu ar waith ar gyfer y trigolion hynny sy'n dymuno defnyddio trelars a faniau i waredu gwastraff mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cysylltwch â ni