FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Gwastraff heb ei gasglu

Rhoi gwybod am achos o wastraff heb ei gasglu

Cyn rhoi gwybod am achos o wastraff heb ei gasglu, sylwch ar yr achosion hysbys canlynol:

Ardal yr effeithir arni

Math o fin

Rheswm dros beidio â chasglu

Dyddiad yr effeithir arno

Blackwood/Cefn Forest

Gwastraff bwyd/gardd

Cerbyd casglu wedi torri i lawr

18/3/24

St Martins Estate, Caerphilly

Gwastraff

Maint anarferol o fawr o wastraff

18/3/24

Thomas Street, Llanbradach

Ailgylchu

Methu â chael mynediad i'r stryd neu'r eiddo

18/3/24

Dol-y-Felin St, (Lane) Caerphilly

Gwastraff

Methu â chael mynediad i'r stryd neu'r eiddo

18/3/24

Lawrence St/Pontygwindy Road Lane, Caerphilly

Gwastraff

Methu â chael mynediad i'r stryd neu'r eiddo

18/3/24

Nid oes angen i chi roi gwybod i ni am yr achosion hyn o wastraff heb ei gasglu. Gadewch eich bin y tu allan i'ch eiddo, a byddwn ni'n casglu'r gwastraff ar y diwrnod gwaith nesaf.

Rhoi gwybod nawr

Rhesymau pam efallai nad yw'ch bin wedi'i wagio  

Mae nifer o resymau pam efallai nad ydyn ni wedi gwagio'ch bin; mae'r rhain yn cynnwys:

  • Rhoi'r bin allan yn hwyr. Rhaid i'r bin fod yn y man casglu erbyn 5.30am ar y diwrnod casglu.
  • Roedd y bin yn cynnwys yr eitemau anghywir. Beth sy'n mynd yn y bin?
  • Rhoi'r bin anghywir allan. Pryd mae'r diwrnod casglu gwastraff?
  • Nid oedd y bin yn ddiogel ei symud (er enghraifft, roedd dros ei bwysau, olwynion wedi torri neu'r gwaelod wedi torri). Archebu bin newydd.
  • Roedd y bin yn orlawn. Os na fydd y caead yn cau'n llawn, bydd unrhyw wastraff gormodol yn cael ei roi yn ôl yn y bin.
Os nad ydyn ni wedi casglu'ch gwastraff am unrhyw un neu ragor o'r rhesymau hyn, bydd angen i chi ei gyflwyno'n gywir ar y diwrnod casglu arferol nesaf. Ni fyddwn ni'n dod yn ôl i'w gasglu.

Rhesymau eraill pam efallai nad yw'ch bin wedi'i wagio

Mae amgylchiadau eraill pan efallai na fyddwn ni'n gallu gwagio'ch bin:

  • Methu â chael mynediad i'r stryd neu'r eiddo – gall hyn fod yn ddigwyddiad traffig, gwaith ffordd, cerbyd wedi torri neu geir wedi'u parcio.
  • Cerbyd casglu wedi torri
  • Problem gyda'r cerbyd casglu
  • Maint anarferol o fawr o wastraff – mae hyn yn arafu'r broses gasglu gan fod angen gwagio'r cerbyd casglu yn amlach. Mae hyn weithiau yn ein hatal ni rhag cwblhau ein llwybr arferol.
  • Tywydd garw – gall y tywydd, fel llifogydd neu eira, atal y cerbyd casglu rhag cyrraedd eich stryd yn ddiogel.

Os nad ydyn ni wedi casglu'ch gwastraff am unrhyw un neu ragor o'r rhesymau hyn, bydd angen i chi ei gyflwyno'n gywir ar y diwrnod casglu arferol nesaf. Ni fyddwn ni'n dod yn ôl i'w gasglu.

Fel arall, cysylltwch â'r adran Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.