FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Awgrymiadau ar leihau gwastraff

Y ffordd orau o ddelio gyda'n gwastraff yw peidio â'i greu yn y lle cyntaf. Gwaredu gwastraff yw'r dewis olaf!

Gallwch chi osgoi gwastraff trwy'r canlynol:

  • Cam 1 – Atal (hoff ddewis)
  • Cam 2 – Paratoi ar gyfer ailddefnyddio
  • Cam 3 – Ailgylchu
  • Cam 4 – Adfer
  • Cam 5 – Gwaredu (cas ddewis)

Atal Gwastraff

  • Cadw cynhyrchion am gyfnod hirach
  • Defnyddio deunyddiau sy'n llai peryglus
  • Defnyddio llai o ddeunydd mewn dylunio a gweithgynhyrchu

Lleihau

Dyma rai syniadau:

  • Peidio â phrynu pethau diangen
  • Dewis pethau sydd wedi'u gwneud yn dda ac a fydd yn para
  • Defnyddio batris sy'n gallu cael eu hailwefru
  • Peidio â thaflu pethau i ffwrdd os ydyn nhw'n torri, ceisio eu hatgyweirio nhw
  • Prynu bwyd gyda llai o ddeunyddiau pecynnu. Er enghraifft, prynu ffrwythau a llysiau rhydd a pheidio a'u rhoi nhw mewn bagiau
  • Peidio â defnyddio pethau tafladwy
  • Defnyddio eich bagiau siopa eich hun pan fyddwch chi'n mynd i siopa.

Ailddefnyddio

Dyma rai syniadau:

  • Prynu nwyddau ail law o siop elusen, arwerthiant cist car neu sborion. Yn ogystal â helpu'ch amgylchedd, byddwch chi'n arbed llawer o arian.
  • Ailddefnyddio potiau iogwrt neu hanner gwaelod poteli plastig fel potiau planhigion.
  • Gall bagiau siopa plastig gael eu hailddefnyddio sawl gwaith fel bagiau siopa. Gallan nhw hefyd gael eu defnyddio fel bagiau bin.
  • Rhoi eitemau diangen i ffrindiau neu berthnasau a fyddai’n ei hoffi, neu ei werthu i rywun arall a all ei ddefnyddio.
  • Prynu llaeth mewn poteli gwydr gan eich dyn llaeth, sy'n gallu cael eu dychwelyd i'w hailddefnyddio.
  • Prynu cynnyrch ddiarogleuo, golchi a glanhau sy'n gallu cael eu hailddefnyddio
  • Prynu cewynnau i'w ail ddefnyddio / go iawn

Rhoi eitemau i Siop Ailddefnyddio Penallta neu Furniture Revival. Mae eitemau sydd wedi'u rhoi hefyd ar gael i'w prynu.

Ailgylchu

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi wneud hyn:

Cysylltwch â ni