Gwastraff gardd swmpus

Gall yr holl wastraff gardd gael ei ailgylchu yn RHAD AC AM DDIM yn ein holl ganolfannau ailgylchu gwastraff tai. Cesglir gwastraff gardd fel toriadau gwair, chwyn, dail a blodau fel rhan o'n gwasanaeth casgliadau wythnosol am ddim.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu ar gyfer gwastraff gardd swmpus fel coed a changhennau. 

I wneud cais am y gwasanaeth hwn:

  • Rhaid cael dim mwy nag un llwyth fan Transit (tua 2.5m x 1.5m x 1.5m o uchder)
  • Ni ddylai’r deunydd gael ei fagio
  • Rhaid i unrhyw goed neu ganghennau gael eu torri i mewn i hyd sy'n llai na 5tr ac o dan 20cilogram
  • Rhaid i’r deunydd gael ei osod ar flaen yr eiddo i gael ei gasglu. Bydd hyn yn cael ei gynghori ar amser yr archebu a rhaid iddo fod yn leoliad lle gallwn gael mynediad diogel gyda cherbyd casglu sbwriel.
  • Ni ddylai’r deunydd gynnwys Llysiau’r Dial, Eiddew Gwenwynig, daear neu rwbel gardd

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu y codir tâl amdano ar gyfer gasglu gwastraff swmpus yr o eiddo domestig yn y fwrdeistref sirol.

Cyn i ni gasglu gwastraff swmpus yr ardd, byddwn yn trefnu ymweliad gan swyddog, archwilio'r deunydd a rhoi dyfynbris i chi. Os byddwch yn fodlon ar y dyfynbris, fe'ch cynghorir i wneud y taliad a threfnu'r casgliad.

Bydd gofyn i chi ddarparu ffotograffau o'r eitem(au). Mae hyn er mwyn i ni allu darparu dyfynbris heb orfod ymweld â'ch eiddo

Gofyn am ddyfynbris ar-lein >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Nodwch y canlynol:

  • Gallwn ond gasglu un llwyth yr eiddo'r archeb felly os oes gennych lot fawr i’w symud, bydd angen i chi archebu casgliad ychwanegol a thalu’r tâl gofynnol eto. Fel arall, gallwch gymryd deunyddiau i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff tai.
  • Gall ad-daliadau ar gyfer cansladau gael eu prosesu os derbynnir o leiaf 48 awr cyn y casgliad sydd wedi ei drefnu.
  • Nid oes unrhyw gonsesiynau neu eithriadau ar gael.