Cwynion sŵn 

Gallwch roi gwybod i ni am y cwynion sŵn canlynol:

  • Cymdogion swnllyd (cerddoriaeth, gweiddi, larymau, DIY ar adegau afresymol)
  • Sŵn o eiddo masnachol (tafarndai, mannau cyfarfod, systemau awyru, larymau)
  • Sŵn o eiddo diwydiannol (ffatrïoedd, gwaith adeiladu, gwaith dymchwel, larymau)
  • Larymau ceir neu stereos swnllyd (dim ond os yw’r cerbyd wedi’i barcio)
  • Cŵn yn cyfarth yn gyson.

Rydym yn annhebyg o ymyrryd ar gyfer sŵn traffig ffyrdd neu gymdogion yn dadlau, babanod yn crio neu gŵn yn cyfarth os yw ond yn digwydd yn achlysurol.

Cyn i chi wneud cwyn

Dylech geisio datrys y broblem yn gynnar i ddechrau, drwy siarad â phwy bynnag sy’n gyfrifol am y sŵn. Mae gan y wefan Problem Neighbours gyngor defnyddiol ar sut i wneud hyn. Gallwch gysylltu â ni hefyd i gael cyngor.

Gwneud cwyn

Os na allwch ddatrys y mater eich hun, gallwch ddweud wrthym amdano a byddwn ni’n delio â’r mater.