Biniau sbwriel
Rydym yn darparu, yn cynnal a chadw ac yn gwagio biniau sbwriel yn rheolaidd yn y fwrdeistref sirol, fel a ganlyn:
- mewn canolfannau siopa mawr a bach, sy’n ddigonol ar gyfer cynnwys sbwriel un diwrnod
- biniau mewn meysydd parcio sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan y cyngor
- biniau mewn canolfannau ailgylchu bychain
- biniau mewn cilfannau ar lwybrau strategol drwy’r fwrdeistref
- biniau baw ci mewn lleoliadau ag enw drwg am gŵn yn baeddu
Rydym yn gwagio biniau yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn gorlifo, fel a ganlyn:
- Canolfannau siopa mawr rhwng un a thair gwaith y dydd
- Canolfannau siopa bychain yn ddyddiol cyn 9 y bore
- Cilfannau ar lwybrau strategol yn ddyddiol cyn 8 y bore
- Pob lleoliad arall sy’n ddibynnol ar eu defnydd rhwng un a saith gwaith yr wythnos
Rhoi gwybod i ni am broblem gyda bin sbwriel
Os byddwch yn nodi ardal lle nad oes bin, neu os yw’r bin wedi’i ddifrodi neu os yw’n gorlifo, rhowch wybod i ni amdano.
Rhoi gwybod i ni am broblem gyda bin sbwriel neu fin baw ci >
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!