Rhoi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon
Mae’n anghyfreithlon cael gwared â sbwriel ar briffordd, tir y cyngor neu dir preifat, a gall olygu dirwy o hyd at £20,000 (dirwy anghyfyngedig os cyflwynir y cyhuddiad gerbron Llys y Goron) neu gellir anfon troseddwr i’r carchar hyd yn oed.
Rhoi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon
COVID-19
Oherwydd yr achos cyfredol o COVID-19, mae'r gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd wedi gorfod cwtogi ar ei wasanaethau er mwyn gallu ymateb i'r sefyllfa bresennol. Mae'n golygu y bydd cwynion/ceisiadau am wasanaeth yn cael eu brysbennu a dim ond y rhai rydym yn eu hystyried yn risg i iechyd y cyhoedd fydd yn destun camau gweithredu.
Rhowch wybod i ni os byddwch yn canfod tipio anghyfreithlon neu’n tystio neu’n adnabod rhywun sy’n tipio yn anghyfreithlon.
Fel arall, ffoniwch yr adran Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.
Mae gennym dîm o swyddogion gorfodi sy’n ymateb i achosion o dipio anghyfreithlon lle bydd tyst neu dystiolaeth o bwy sydd wedi cael gwared â’r gwastraff.
Cynghorion
- Dylech archwilio’r gwastraff yn weledol. Ceisiwch wneud nodyn o beth mae’n ei gynnwys, pa symiau a’i leoliad, yn arbennig os yw mewn neu unrhyw le yn agos at ddŵr (dŵr wyneb neu ddŵr daear).
- Ni ddylech gyffwrdd y gwastraff. Gallai gynnwys sylweddau peryglus yn cynnwys cemegau gwenwynig, asbestos, gwydr wedi torri neu wastraff clinigol (er enghraifft, chwistrellau halogedig).
- Ni ddylech darfu ar y safle. Efallai bod tystiolaeth yno, a allai arwain at olrhain y tramgwyddwyr a’u herlyn.
- Rhowch wybod i ni, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar 0800 807060 i gael cyngor brys ar ba gamau i’w cymryd i drefnu i’r gwastraff gael ei symud yn ddiogel.
- Pan fydd yn bosibl, dylech gofnodi’r dyddiad a’r amser, lle’r oeddech chi, gyda phwy yr oeddech chi, beth a phwy welsoch chi, beth wnaethant mewn gwirionedd, disgrifiad o unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd, disgrifiad o beth a gafodd ei dipio, faint, a sut yr oedd yn edrych.