Rhoi gwybod i ni am gyfarth am gyfnodau hir neu gyfarth eithafol

Mae pob ci yn cyfarth weithiau, fodd bynnag, os bydd y ci yn cael ei adael ar ei ben ei hun am gyfnodau hir, neu os yw wedi diflasu, bydd yn cyfarth am gyfnodau hir o amser. Gall hyn achosi annifyrrwch a gofid i gymdogion.

Cyn cysylltu â ni neu’r heddlu, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad gyda’r perchennog. Dywedwch wrthynt pryd mae’r ci yn cyfarth ac am ba hyd. Gallai cadw cofnod o ddyddiadau ac amseroedd fod yn ddefnyddiol, oherwydd efallai nad ydynt yn ymwybodol o gwbl o hyn.

Os na fydd hyn yn gweithio, rhowch wybod i ni.

Os yw’r cofnodion yn dangos bod y cyfarth yn niwsans posibl, yn seiliedig ar amlder a hyd y cyfarth, byddwn yn ymchwilio i’r mater ac yn delio ag ef. Bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ymweld â’r perchennog ac yn trafod y mater gyda hwy. Ni fyddwn yn dweud wrth berchennog y ci pwy sydd wedi cwyno.

Mewn achosion eithafol byddwn yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn perchennog y cŵn os na fyddant yn barod i fynd i’r afael â’r broblem.

A yw eich ci yn cyfarth gormod?

Mae gwefan Defra yn cynnwys cyngor ac arweiniad i berchenogion cŵn

Gellir Osgoi Cyfarth Parhaus: Cynnig arweiniad i berchenogion cŵn

Cysylltwch â ni