FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Mathau eraill o niwsans statudol

Mae ‘niwsans statudol’ yn rhywbeth sydd naill ai’n niweidiol i iechyd, er enghraifft rhywbeth sy’n gallu achosi afiechyd, neu’n niwsans mewn cyfreithiau cyffredin. Mae’n rhaid ei fod yn rhywbeth sy’n effeithio ar ddefnydd a mwynhad rhywun o’u cartref/eiddo. Mae’n rhaid ei fod yn digwydd yn rheolaidd ac yn parhau am gymaint o amser fel ei fod yn afresymol.

Materion sy’n cael eu cynnwys gan gyfraith niwsans statudol

Mae yna nifer o fathau gwahanol o broblemau sy’n gallu achosi ‘niwsans statudol’, fel y’i diffinnir yn Adran 80 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

  • Sŵn a dirgryniad
  • Llwch
  • Mwg
  • Arogl o eiddo masnachol yn unig
  • Pryfed o eiddo masnachol yn unig
  • Golau artiffisial

Materion sy’n annhebygol o gael eu cynnwys gan gyfraith niwsans statudol        

  • Sŵn awyrennau
  • Arogl o geginau domestig
  • Sŵn traffig ffordd
  • Cymdogion yn dadlau
  • Babi yn crio yn achlysurol
  • Cŵn yn cyfarth yn achlysurol

Rhoi gwybod i ni am niwsans

Yn ddibynnol ar y math o niwsans dan sylw, rhowch wybod i ni am y mater gan ddefnyddio un o’r botymau isod.

Ar gyfer mathau eraill o niwsans, cysylltwch â’r tîm llygredd.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am fater, bydd angen i chi roi:

  • Eich cyfeiriad
  • Eich rhif ffôn
  • Manylion y broblem – y math o niwsans, pa mor aml mae’n digwydd ac am ba hyd
  • Cyfeiriad person/eiddo/cerbyd sy’n achosi’r niwsans
  • Gwybodaeth ychwanegol berthnasol

Ni allwn ymchwilio i gwynion dienw oherwydd i ymchwilio i’r gŵyn bydd angen i ni wybod pwy sy’n cael eu heffeithio gan y niwsans. Fodd bynnag, gallwn eich sicrhau y bydd eich manylion yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol, a phan fyddwn yn delio â’r cais ni fydd unrhyw fanylion am yr achwynydd yn cael eu datgelu.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd eich cwyn yn cael ei chofnodi a’i throsglwyddo i swyddog ymchwilio a fydd yn cysylltu â chi. Gwneir hyn fel arfer o fewn 5 diwrnod ar ôl derbyn y gŵyn.

Bydd yr hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos. Er enghraifft, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, efallai y byddwn yn gofyn i chi gadw taflen gofnodi neu ddyddiadur, a allai gwmpasu nifer o wythnosau, cyn y gallwn barhau â’n hymchwiliadau.

Fel arfer, bydd y cam hwn yn cynnwys cysylltu hefyd â’r person sy’n sail i’r gŵyn, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r cyhuddiadau. 

Bydd problem barhaus yn destun ymchwiliadau pellach. Os bydd y gŵyn yn ymwneud â sŵn, gall hyn gynnwys defnyddio dull monitro, yn cynnwys offer mesur a chofnodi sŵn yn ystod y dydd a thu allan i oriau swyddfa arferol.

Os bydd angen, mewn achosion pan fydd swyddog cymwys yn tystio problem ac achos o dorri deddfwriaeth, bydd y swyddog yn gweithredu yn unol â’n Polisi Gorfodi Gwarchod y Cyhoedd. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cyflwyno rhybudd, gorchymyn i waith gael ei wneud neu erlyniad, yn unol â’r amgylchiadau.

Mewn rhai amgylchiadau, pan na fydd camau statudol yn opsiwn, gellir defnyddio gwasanaethau cyfryngu i helpu i ddatrys yr anghydfod.

Beth os na all y cyngor helpu?

Os ydych chi’n cael eich effeithio gan niwsans, gallwch gwyno’n uniongyrchol i’r Llys Ynadon o dan Adran 82 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Gallwch wneud hyn os nad ydych yn dymuno cynnwys y cyngor yn hyn neu am nad yw’r cyngor wedi gallu sefydlu niwsans statudol. Yn yr amgylchiadau hyn byddwn yn eich hysbysu ynglŷn â’r opsiwn hwn. 

Gellir cymryd camau sifil os gellir dangos bod y niwsans yn effeithio ar iechyd, cyfforddusrwydd neu gyfleuster. Gall hyn fod yn ddrud ac os byddwch yn ystyried hyn rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol.

Taflenni cymorth

Tân Gwyllt(PDF)

Coelcerthi Gardd (PDF)

Llygredd Golau (PDF)

Sŵn o’r cymdogion (PDF)

Llygredd sŵn (PDF)

Noise pollution (PDF)

Defnyddio gwlân a glo ar gyfer cynhesur cartref(PDF)

Rheoli sŵn a niwsans cyhoeddus eraill (PDF)