Trwyddedu Amgylcheddol

Yn 2007 cafodd y Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd a’r Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff eu cyfuno gan y Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd. Mae eu cwmpas wedi’i ehangu ers hyn i gynnwys gollyngiadau dŵr, dŵr daear a sylweddau ymbelydrol.

Daeth y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol i rym ar 6 Ebrill 2008. Roedd y rheoliadau newydd yn symleiddio’r broses drwyddedu, i ddiwydiant a rheoleiddwyr. Mae angen trwydded i weithredu ar gyfer rhai gweithgareddau sy’n cael eu diffinio gan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Mae gweithredu heb drwydded yn drosedd.

Roedd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010, fel y’u diwygiwyd, yn cyfuno’r System Atal a Rheoli Llygredd a’r System Rheoli Gwastraff i un ddeddfwriaeth gyfunol. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio prosesau Rhan A1. Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am reoleiddio allyriadau i aer, tir a dŵr o safleoedd Rhan A2 ac allyriadau i aer o bob safle Rhan B.

Mae gwybodaeth am sefydliadau/prosesau sy’n cael eu caniatáu yn CBS Caerffili ar gael i’w lawrlwytho isod:

Rhestr o Brosesau sy’n cael eu Caniatáu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol Rhan A(2) neu Ran B 

Mae gweithgareddau Rhan A(2) a Rhan B yn cael eu rheoleiddio gan awdurdodau lleol. Mae manylion llawn am y broses o wneud cais ar gyfer trwyddedau Amgylcheddol Rhan A(2) a Rhan B, yn cynnwys dolenni i ffurflenni gwneud cais ar-lein ar gael ar y wefan Trwyddedau – Trwyddedau amgylcheddol.

Proses a Thrwyddedu A(1) 

Mae eiddo A(1) yn cael eu rheoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae unrhyw wybodaeth sydd ei hangen am y math hwn o sefydliad ar gael drwy chwilio / gwneud cais drwy’r ddolen ganlynol:

Lawrlwytho Data Amgylcheddol

Neu fel arall drwy gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru drwy’r post, dros y ffôn neu drwy e-bost yn:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Ffôn: 0300 065 3000 (Llun-Gwen, 8am - 6pm
E-bost: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk