Tir halogedig

O dan Ran 2A Deddf Diogelu’r Amgylchedd (1990), mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i nodi, archwilio ac, os bydd angen, sicrhau adferiad safleoedd sydd wedi’u halogi yn hanesyddol yn eu hardal. I gael rhagor o wybodaeth am Ran 2A ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

O dan Ran 2A mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i gynhyrchu strategaeth archwilio tir halogedig.

Cynlluniau datblygu a cheisiadau cynllunio

Mae gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ddyletswydd i ystyried achosion posibl o halogiad wrth baratoi cynlluniau datblygu ac wrth ystyried ceisiadau cynllunio. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymgynghori ag adran Rheoli Llygredd Iechyd yr Amgylchedd awdurdodau wrth brosesu ceisiadau. Mae’n rhaid i’r adran fod yn fodlon na fyddai datblygu tir sydd o bosibl wedi’i halogi yn cyflwyno, yn caniatáu nac yn creu risgiau annerbyniol.

Dylai datblygwyr gyflwyno gwybodaeth ddigonol gyda’u cais cynllunio er mwyn penderfynu ar y risgiau o halogiad, a bodloni’r Awdurdod Cynllunio Lleol bod opsiwn adfer ymarferol ar gyfer y safle. Bydd angen paratoi adroddiadau ar gyfer y safle yn unol â’r canllawiau canlynol:

Canllaw i Ddatblygwyr Tir Halogedig

Canllawiau Statudol Tir Halogedig Cymru 2012

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol 2010

Cafodd y rheoliadau difrod amgylcheddol eu cynllunio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu’n llawn rhag y mathau mwyaf difrifol o ddifrod amgylcheddol. Mae’r rheoliadau yn gorfodi llygrwyr i atal ac adfer difrod amgylcheddol y maent wedi’i achosi.

Noder: Daeth y rheoliadau i rym ar 1af Mawrth 2009 a dim ond ar gyfer difrod amgylcheddol a achoswyd ar ôl iddynt ddod i rym y maent yn berthnasol.

Y mathau o ddifrod amgylcheddol sy’n cael ei gynnwys gan y rheoliadau

Difrod i ddŵr, tir a bioamrywiaeth, sy’n cynnwys:

  • difrod difrifol i ddŵr wyneb neu ddŵr daear
  • llygru tir lle mae risg sylweddol i iechyd pobl
  • difrod difrifol i gynefinoedd naturiol a rhywogaethau sy’n cael eu diogelu gan yr UE
  • difrod difrifol i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Mae rheoliadau difrod amgylcheddol yn effeithio ar:

  • busnesau preifat
  • ffermio
  • gweithgynhyrchu
  • adeiladu a dymchwel
  • rheoli gwastraff
  • coedwigaeth
  • sector preifat – ysgolion, ysbytai, adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth
  • sefydliadau elusennol a gwirfoddol

Noder: Mae eiddo preswyl wedi’u heithrio o’r rheoliadau Difrod Amgylcheddol.

Os bydd risg o ddifrod gennych chi neu’ch gweithgareddau busnes, mae’n rhaid i chi atal difrod o’r fath rhag digwydd. Os byddwch chi neu eich gweithgareddau yn bygwth achosi, neu wedi achosi difrod amgylcheddol, mae’n rhaid i chi: 

  • Cymryd camau i atal y difrod (neu ddifrod pellach) rhag digwydd
  • Hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Awdurdod Lleol, a fydd yn dweud wrthych beth y mae’n rhaid i chi ei wneud i atal a/neu adfer y difrod.

Os bydd angen i Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Awdurdod Lleol adfer y difrod a achoswyd gennych chi, byddwch yn atebol am gostau cysylltiedig.

Rheoliadau Difrodi’r Amgylchedd (Rhwystro ac Adferiad) 2009 – Canllaw ar gyfer Lloegr a Chymru 

Adrodd ar faterion

Os oes ymholiad gennych neu fater sy’n ymwneud â’r tir halogedig cysylltwch â ni.