FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Ansawdd aer

Mae ansawdd aer yn dangos pa mor iach yw’r aer i’w anadlu. Mae llygredd yn yr aer yn arwain at ansawdd aer gwael, sy’n gallu cael effaith andwyol ar iechyd pobl, anifeiliaid, planhigion a’r amgylchedd.

Mae llygredd aer yn cael ei achosi gan lygrwyr naturiol ac artiffisial sy’n cynnwys nwyon, diferion hylif a/neu ronynnau solid (mater gronynnol). Mae llygrwyr aer yn cynnwys, osôn, ocsidau nitrogen, amonia, sylffwr deuocsid, carbon monocsid a mater gronynnol (e.e. huddygl, llwch, graean ac yn y blaen).

Gwella ansawdd yr aer yn y fwrdeistref sirol

Ers cyflwyno Deddf yr Amgylchedd 1995 a’r Strategaeth Ansawdd Aer Cenedlaethol, mae gan bob cyngor lleol ddyletswydd i adolygu ac asesu ansawdd aer lleol ac, os bydd angen, cymryd camau i wella ansawdd aer mewn unrhyw leoliad pan na fydd safonau cenedlaethol yn cael eu cyflawni.

Er mwyn asesu ansawdd aer yn y fwrdeistref, rydym yn cynnal rhaglen monitro ansawdd aer.

Rydym yn cynnal gweithgareddau monitro rheolaidd ar gyfer nitrogen deuocsid a mater gronynnol (PM10), a phrif ffynhonnell hyn yw allyriadau cerbydau. Mae crynoadau o nitrogen deuocsid a mater gronynnol yn cael eu monitro gan ddefnyddio offer monitro anawtomatig ac awtomatig.

Mae’r ardaloedd canlynol wedi’u datgan yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer:

Adroddiadau cynnydd ar ansawdd aer

Air Quality Assessments

Beth y gallaf ei wneud i wella ansawdd aer?

Mae cerbydau ffyrdd yn un o brif ffynonellau llygredd aer ym Mwrdeistref Caerffili. Gallwch helpu i leihau llygredd cerbydau drwy:

  • Osgoi defnyddio eich car ar gyfer teithiau byr sy’n llai na 2.5 cilomedr (~1.5 o filltiroedd).
  • Peidiwch â chychwyn eich injan nes y byddwch yn barod i fynd.
  • Peidiwch â refio injan eich car yn ddiangen.
  • Gyrrwch yn esmwyth, peidiwch â brecio yn drwm na chyflymu’n gyflym oherwydd mae’n cynyddu llygredd, yn defnyddio mwy o danwydd ac yn costio mwy.
  • Cynnal a chadw eich car a chadw eich teiars ar y pwysedd cywir.
  • Ceisio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na’ch car, yn arbennig yn ystod cyfnodau o lygredd uchel, yn cynnwys y cyfnodau brig.

Gallwch helpu i leihau crynoadau eraill o lygredd aer drwy:

  • Peidio llosgi plastigau neu rwber (mae llosgi’r deunyddiau hyn yn cynhyrchu llygrwyr gwenwynig ac mae’n anghyfreithlon).
  • Defnyddio cynnyrch sy’n seiliedig ar ddŵr neu gynnyrch â lefelau isel o doddyddion wrth ddefnyddio paent, glud, farnais neu gadwolion pren, ac yn y blaen.
  • Peidio goleuo coelcerth pan fydd lefelau uchel o lygredd aer neu os yw’r tywydd yn llonydd, yn aer ac yn wlyb.
  • Osgoi llosgi tanwyddau solet a gwastraff cartref.