Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Iechyd yr amgylchedd a llygredd    Coronavirus: hysbysiadau gwella a chau

Coronavirus: hysbysiadau gwella a chau

O dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a ddaeth i rym ar 10 Awst 2020, cafodd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru bwerau i reoli, lleihau ac atal y risg o ddod i gysylltiad â COVID-19.

Pan fydd y Cyngor yn cael gwybod am fater sy'n tynnu sylw at fusnes neu safle sydd ddim yn glynu wrth Reoliadau COVID-19, mae ganddo ddyletswydd i weithredu a sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu.

Hysbysiadau Lleol/Cau Safleoedd

O dan y Rheoliadau yma (Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020), mae'r Cyngor wedi cyflwyno'r hysbysiadau canlynol ar y safle isod:

  • yn cydymffurfio â Rheoliadau COVID-19
  • angen gwella
  • wedi cau oherwydd diffyg cydymffurfio parhaus

Hysbysiadau Gwella

Mae Hysbysiadau Gwella wedi'u cyflwyno i'r cwmnïau canlynol ar draws Caerphilly yn dilyn nifer o fethiannau â chydymffurfio â rheoliadau COVID-19, gan gynnwys peidio â rheoli pellter cymdeithasol a diffyg hylif glanhau a hylif diheintio dwylo, yn eu plith

  • Does dim hysbysebion ar waith ar hyn o bryd

Bydd gyda'r busnesau yma 48 awr i roi'n iawn y materion a gafodd eu hamlygu iddyn nhw neu bydd camau gorfodi pellach yn cael eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn i gyflwyno hysbysiadau cau. 

Hysbysiadau Cau

Mae Hysbysiadau Cau (COCH) wedi'u cyflwyno i’r cwmnïau canlynol ar draws Caerfilli yn dilyn methiannau parhaus â chydymffurfio â rheoliadau COVID-19, gan gynnwys peidio â rheoli pellter cymdeithasol a diffyg hylif glanhau a hylif diheintio dwylo, yn eu plith.

  • Does dim hysbysebion ar waith ar hyn o bryd

Bydd gyda'r busnesau yma 168 awr i roi'n iawn y materion a gafodd eu hamlygu iddyn nhw neu bydd camau gorfodi pellach yn cael eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn i gyflwyno hysbysiadau cau pellach. 

Os ydych chi wedi ymweld â'r safle ac mae gyda chi symptomau, dyma'ch cynghori i:

  • Archebu prawf ar-lein yma
  • Ffonio 119

Dyma atgoffa'r cyhoedd bod y Rheoliadau ar waith i'w diogelu. Os ydyn nhw o'r farn fod busnes, ardal neu safle ddim yn cydymffurfio, ddylen nhw ddim ymuno â'r gweithgaredd na chymryd rhan ynddo. Mae'n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i reoli'r feirws rhag lledaenu a helpu i gadw Cymru'n ddiogel.  

Hefyd, yn rhan o'r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, dyma atgoffa trigolion os oes gyda nhw symptomau a’u bod yn cael canlyniad prawf positif, dylen nhw hunanynysu ac aros gartref am o leiaf 10 diwrnod. Dylai unrhyw un maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw hunanynysu am 14 diwrnod hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo'n iawn neu'n cael prawf negyddol.

Mwyaf poblogaidd
  • Hysbysu am fusnes sydd ddim yn cydymffurfio â chanllawiau COVID-19 y Llywodraeth
Share on Facebook
Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl