Cam-drin domestig

Yn anaml y mae cam-drin domestig yn ddigwyddiad unwaith ac am byth ac fel arfer mae'n batrwm o ymddygiad.  Gall fod yn anodd ei nodi, yn enwedig i'r sawl sy'n ei brofi, ond mae'n gyffredin iawn.

Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, waeth beth yw rhyw, oedran, dosbarth, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, statws mewnfudo, ethnigrwydd, daearyddiaeth neu grefydd.

Weithiau, mae pobl yn camddeall cam-drin domestig ac yn meddwl mai trais corfforol yn unig yw ef, ond gall cam-drin domestig hefyd gynnwys:

  • Trais/cam-drin rhywiol
  • Rheoli ariannol
  • Cam-drin emosiynol
  • Cam-drin seicolegol
  • Rheoli  cymhellol (megis gorfodi gofynion dibwys, monitro cysylltiadau cymdeithasol).

I gysylltu â gwasanaethau cam-drin domestig yng Nghaerffili, ffoniwch 02920 860255 neu ewch i:

Llamau Safer Caerphilly Centre,
Cwrt Wern Ddu 
Caerffili 
CF83 3SG

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800

Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD)

Mae Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADDau) yn ofynnol yn ôl y gyfraith ac, yng Nghaerffili, cyfrifoldeb y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) yw hyn. I gael rhagor o wybodaeth am ADDau, cliciwch yma Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD).

Cysylltwch â ni