Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Treth y Cyngor    Adolygiad Gostyngiad Person Sengl

Adolygu gostyngiad treth y cyngor i berson sengl 

Cwblhewch eich Adolygiad Gostyngiad Person Sengl ar-lein

I gwblhau eich ffurflen adolygu ar-lein

Cadarnheuwch eich manylion presennol drwy glicio ar y ddolen Adolygiad Gostyngiad Person Sengl uchod.  Er mwyn gweld eich ffurflen, bydd angen i chi roi eich rhif PIN unigryw. Gallwch ddod o hyd i’r rhif PIN hwn ar y llythyr rydym wedi'i anfon atoch. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r ffurflen neu os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cliciwch ar y ddolen isod i gael mynediad at y dudalen cwestiynau a ofynnir yn aml.

Cwestiynau a ofynnir yn aml am yr adolygiad Gostyngiad Person Sengl

Mwy o wybodaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwneud adolygiad ar hyn o bryd o drigolion sy’n derbyn gostyngiad o 25% ar eu treth y cyngor.  

Mae Gostyngiad Person Sengl yn cael ei hawlio pan fydd oedolyn yn breswylydd oedolyn sengl mewn eiddo.  Mae’r cyngor yn ymwybodol bod y mwyafrif o drigolion yn hawlio’r gostyngiad yn briodol, ond efallai fod lleiafswm yn hawlio’r gostyngiad yn anghywir.  Efallai nad yw’r trigolion hyn wedi rhoi gwybod am newid i'w hamgylchiadau ac yn derbyn gostyngiad pan nad oes hawl iddynt wneud mwyach. 

Cyn hir, bydd y Cyngor yn anfon llythyr at rhai trigolion sy’n derbyn Gostyngiad Person Sengl yn gofyn iddynt gadarnhau eu hamgylchiadau presennol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i drigolion rhoi gwybod i'r Cyngor os oes newid wedi bod i'w hamgylchiadau. 

Os na fydd trigolion yn ymateb i’r llythyr hwn, bydd eu Gostyngiad Person Sengl yn cael ei dynnu'n ôl ac efallai bydd angen cynnal archwiliadau pellach. 

Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Gwasanaethau i Gwsmeriaid, y Cynghorydd Eluned Stenner, “Tra ein bod yn ymwybodol fod y mwyafrif  helaeth o’n trigolion yn hawlio unrhyw ostyngiadau treth y cyngor maent yn eu derbyn yn gywir, yn anffodus mae yna leiafswm sy’n eu hawlio’n anghywir. Rhaid i ni gymryd unrhyw hawliau twyllodrus o ddifrif, ac fel cyngor rydym yn rhagweithiol iawn wrth gadarnhau’r holl hawliau gostyngol. Bydd yr ymarfer adolygu syml hwn yn helpu i sicrhau fod y rheini sydd â hawl i ostyngiadau o’r fath yn parhau i’w derbyn, wrth wneud yn siŵr fod unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau yn cael eu hadolygu a’u cofnodi.” 

Y dull hawsaf i drigolion ymateb yw trwy lenwi ffurflen ddatganiad ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen yn y llythyr.  Fel arall, bydd ffurflen bapur ar gefn y llythyr, a dylai trigolion ddychwelyd y ffurflen i'r cyfeiriad Nottingham sydd ar waelod y llythyr. Mae’r cyfleuster sganio’r llywodraeth leol sydd wedi ei lleoli yn Nottingham yn prosesu dogfennau ar ran nifer o awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig. 

I siarad â’r tîm Treth y Cyngor, ffoniwch 01443 863 002 neu e-bostiwch: trethycyngor@caerffili.gov.uk.

Cysylltwch â ni
  • Ebost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Share on Facebook
Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl