Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Treth y Cyngor    Coronafeirws - Talu Treth y Cyngor

Coronafeirws - Talu Treth y Cyngor

Mae Treth y Cyngor yn helpu talu am wasanaethau sy'n cael eu darparu i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol.

WGyda hyn mewn golwg, rydyn ni’n gofyn i chi dalu'ch rhandaliadau Treth y Cyngor misol fel sydd wedi'i nodi ar eich bil.  Os nad ydych chi wedi talu'r swm/symiau sydd ar eich bil eleni eto, a wnewch chi sicrhau bod eich taliadau wedi'u diweddaru.  Efallai bod gweddillion i'w talu sydd wedi'u dyddio cyn 1 Ebrill 2021 y mae angen eu talu.

Rydym nawr yn dilyn ein gweithdrefnau adfer arferol.  Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich taliad. Os na allwch dalu'r swm cyfan, anfonwch e-bost neu ffoniwch ni fel y gallwn geisio'ch helpu chi.

Sut mae talu?

Os ydych chi fel arfer yn talu'n uniongyrchol yn Swyddfeydd Arian Parod y Cyngor, sylwch fod y Swyddfeydd Arian Parod ar gau ar hyn o bryd o ganlyniad i'r sefyllfa Coronafeirws.  Mae sawl dull arall er mwyn talu.  Mae'r rhain yn cynnwys debyd uniongyrchol, taliadau ar-lein, defnyddio cerdyn Swyddfa Bost a drwy'r llinell dalu, sef 01443 863366. Ewch i'r adran Talu'ch bil Treth y Cyngor am fanylion llawn.

Cyngor am ddim a chymorth arall sydd ar gael

Rydyn ni'n deall efallai y bydd rhai talwyr Treth y Cyngor yn wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i'r Coronafeirws.  Cysylltwch â ni drwy e-bostio trethycyngor@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863002 os bydd hynny'n haws.

O ganlyniad i gyfyngiadau'r Coronafeirws, dylech chi nodi efallai bod staff yn gweithio o adref; mae hyn yn golygu efallai y gall ein hymateb gymryd rhagor o amser nag arfer.  Os bydd y llinell ffôn yn brysur, efallai bydd angen i ni eich ffonio chi yn ôl; efallai nid ar yr un diwrnod ond, peidiwch â phoeni, byddwn ni yn cysylltu â chi. Diolch am eich amynedd.

Efallai byddwn ni'n gofyn am fanylion ynghylch eich incwm a'ch gwariant er mwyn helpu ni i gytuno ar drefniad talu dderbyniol gyda chi.

Mae'r cyngor canlynol hefyd ar gael:

  • Cyngor am ddim os oes gennych chi broblemau ariannol - Mae modd i chi gael cyngor am ddim gan sawl sefydliad gan gynnwys The Money Advice Service, Cyngor ar Bopeth a StepChange. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Trafferth wrth dalu’ch bil.

  • Sicrhewch eich bod chi wedi hawlio'r holl fudd-daliadau a chymorth y mae gennych chi'r hawl i'w cael. Yn achos teuluoedd o oedran gweithio, gallai hyn fod ar ffurf Credyd Cynhwysol, Lwfans Cymorth i Weithwyr neu Dâl Salwch Statudol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau budd-daliadau a grantiau.

  • Gostyngiad Treth y Cyngor. gostyngiad prawf modd i bobl o bob oed. Mae'n lleihau'r swm Treth y Cyngor y byddwch chi'n ei dalu. Mae maint y gostyngiad a gewch chi yn dibynnu ar eich incwm a maint eich aelwyd. Mae rhagor o wybodaeth, a sut i wneud cais, ar gael ar ein tudalennau Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

  • Efallai byddwch chi'n gymwys am ostyngiad neu eithriad. er enghraifft, gallwch chi gael 25% oddi ar eich bil os dim ond 1 oedolyn 18 oed neu'n hŷn sy'n byw yn yr eiddo neu os yw rhywun sy'n byw yn yr eiddo yn cael ei ddiystyru (heb ei ystyried) at ddibenion Treth y Cyngor. I gael y manylion llawn, a sut i wneud cais, ewch i'r adran gostyngiadau ac eithriadau.

  • Bydd eithriadau a diystyriadau yn achos myfyrwyr yn parhau lle mae'ch cwrs wedi'i estyn – e-bostiwch gopi o'ch tystysgrif myfyriwr wedi'i diweddaru, wedi'i chyhoeddi gan eich man addysg, i TrethyCyngor@caerffili.gov.uk.

Cysylltwch â ni
  • Ebost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Share on Facebook
Twitter Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl