Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Coronafeirws - cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf    Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai

Cefnogi Pobl – Cymorth gyda thai, digartrefedd, dyled, budd-daliadau, ôl-ddyledion a chyflogaeth

Y weledigaeth yw “Cymru lle nad oes neb yn ddigartref, ac mae gan bawb gartref diogel lle gallant ffynnu a byw bywyd cyflawn, egnïol ac annibynnol”.

Os ydych chi'n byw yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, dros 16 oed ac yn ei chael hi'n anodd cadw'ch cartref, mewn perygl o golli'ch swydd, angen symud neu angen help gyda'ch cyllid neu unrhyw fath o ddyled, gallai'r Tîm Cefnogi Pobl gynnig cymorth i chi. P'un a ydych chi'n berchennog cartref, tenant (y Cyngor, cymdeithas dai neu'n breifat), yn cysgu allan neu ar soffa ffrind, mae'r Tîm Cefnogi Pobl yma i helpu.

O ran rhywbeth a all arwain atoch yn colli eich cartref, gallwn eich helpu gyda phethau fel:

  • Help i ddechrau a chynnal cartref – fel dod o hyd i'r cyfleustodau gwerth orau a dechrau cyfrifon debyd uniongyrchol gyda chyflenwyr ynni, cofrestru pobl sydd wedi cofrestru gyda'r gwasanaethau iechyd, fel Meddygon Teulu a deintyddion.

  • Help i atal troi allan, ôl-ddyledion rhent, treth ystafell wely/ôl-ddyledion treth y cyngor, dirwyon Trwydded Deledu – trefnu cynlluniau ad-daliadau ar gyfer dyledion a chwilio ar wefan “Turn to Us” am grantiau.

  • Help i gael mynediad at wasanaethau, rhwydweithiau cymorth a chymdeithasol – atgyfeiriadau ymlaen/hyfforddiant teithio i fynychu grwpiau.

  • Help i gael mynediad at addysg, gwirfoddoli, hyfforddi a chyfleoedd cyflogaeth – atgyfeiriadau a mynediad i fynd yn ôl at raglenni gwaith, trafodaethau gyda hyfforddwyr swyddi yn ymwneud â rhwystrau i waith (e.e. esgidiau/dillad gwaith a chael cyllid i dalu am hyn.

  • Help i hawlio budd-daliadau, uchafu incwm, apeliadau budd-daliadau a cheisiadau am grantiau – gwefan Turn to Us er mwyn gwirio budd-daliadau a llenwi ffurflenni budd-daliadau.

  • Help gyda chyllido, rheoli arian a rheoli dyled – gwiriadau incwm a gwariant a chyllido, chwilio am opsiynau rhatach ar gyfer pethau fel cyfleustodau a chynlluniau ad-dalu.

  • Help i ddarllen llythyron a llenwi ffurflenni – darllen llythyron yn y tymor hir e.e. gwasanaethau Mencap lle nad oes teulu yn bresennol/ffurflenni cais am fudd-daliadau

  • Help i gynyddu annibyniaeth – annog amrywiaeth o bethau sy'n ymwneud â bywyd cymdeithasol, fel coginio yn annibynnol neu fynd allan yn annibynnol gan gynnwys hyfforddiant teithio. Cymorth i ddeall cytundeb tenantiaeth a bod yn annibynnol drwy gadw eiddo wedi ei gynnal hyd at safon uchel.

  • Help i atal digartrefedd – pecyn cychwyn cartref, grantiau, cynllun achub morgeisi a gweithio gyda Shelter Cymru

  • Ddim yn wasanaeth gofal – nid yw Cefnogi Pobl yn wasanaeth gofal. Nid ydym yn darparu cymorth o ran dyletswyddau yn y cartref, fel glanhau, coginio neu eiriolaeth.

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

Er mwyn cyrchu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai gan y Tîm Cefnogi Pobl, bydd angen i chi lenwi ffurflen atgyfeirio. Defnyddir y ffurflen hon i gasglu gwybodaeth i'n helpu ni i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Llenwi Ffurflen Atgyfeirio Cefnogi Pobl

Fel arall, gallwch anfon y gair HOUSUPPORT mewn neges destun i 81400 a bydd aelod o'r tîm Cefnogi Pobl yn cysylltu â chi.

Gwasanaethau perthnasol y Cyngor sy’n cynnig cymorth

  • Tai – dod o hyd i gartref
  • Eiddo anodd eu gosod yn barod i'w rhentu
  • Credyd Cynhwysol a hawlio budd-dal tai
  • Problemau o ran talu eich rhent os ydych yn denant y Cyngor
  • Cynllun Achub Morgeisi

Gwefannau defnyddiol sy’n cynnig cymorth

  • Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned
  • Gofal a Thrwsio
  • Lwfans Gweini
  • Cynllun Nyth
  • Pobl living
  • Llamau – Gwasanaethau Cam-drin Domestig
  • Cyngor ar Bopeth
  • Llinell Gymorth Dementia Cymru
  • Cysgu allan
  • DAN 24/7 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
  • Undeb Credyd Smart Money
  • Tyfu – Gwasanaethau garddio
  • Age Cymru Choices
  • Veterans' Gateway
  • Shelter Cymru
  • Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru

Strategaethau perthnasol

  • Cynllun Comisiynu Lleol 2018–2021
  • Strategaeth Digartrefedd Gwent
  • Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Gwybodaeth i ddarparwyr

Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer darparwyr gwasanaeth yn unig:

  • Cefnogi Pobl Cymru – Fframwaith Canlyniadau – Canllaw | (PDF)
  • Gwasanaethau Cefnogi Pobl – Holiadur Canlyniadau a Gadael (WORD) | (PDF)
  • Adolygu Methodoleg Gwent (PDF)
  • Ffurflen Atodlen 2019–2020 – defnyddio er mwyn cyflwyno data sy’n mynd gyda’r anfoneb
  • Holiadur Gwerthuso Cefnogi Pobl (Word 54k)
Mwyaf poblogaidd
  • Ap COVID-19 y GIG
Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
  • Referral form
Facebook Share on Facebook
Twitter Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page

Mwy

Rheoli’ch arian

Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl