Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Coronafeirws - cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf    Gwybodaeth am sut i wneud cais am brawf Covid-19 os oes gennych symptomau

Cynllun olrhain cysylltiadau

Latest: Due to a recent rise in the number of cases of coronavirus in the Caerphilly county borough, Aneurin Bevan University Health Board has set up temporary testing centres.

Mae'r cynllun ‘Profi Olrhain Diogelu’ bellach ar waith ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Rydyn ni'n annog unrhyw un sy'n dangos symptomau coronafeirws i wneud cais am brawf.

Gwnewch gais i gael prawf coronafeirws

Mae’r cynllun yn rhan allweddol o gynllun adfer Covid-19 Llywodraeth Cymru. Mae’n ein helpu ni i sefydlu ffordd newydd o fyw a gweithio ochr yn ochr â’r feirws, gan reoli ei ledaeniad hefyd.

Sut mae’r system yn gweithio

Mae’r system yn gweithio drwy wneud y canlynol:

  • profi pobl sydd â symptomau’r coronafeirws a gofyn iddynt ynysu oddi wrth deulu ehangach, ffrindiau, cydweithwyr a’u cymuned tra maent yn aros am ganlyniad
  • olrhain unigolion sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws, gan ofyn iddynt gadw at fesurau diogelu a hunanynysu am 14 diwrnod
  • darparu cyngor a chyfarwyddyd, yn enwedig os yw’r person sydd wedi profi’n bositif neu ei gysylltiadau’n agored i niwed neu’n wynebu risg uwch
  • sicrhau os bydd rhywun yn profi’n negatif ei fod yn cael dychwelyd i’r gwaith ac i’w drefn arferol cyn gynted â phosib

Darllenwch ragor o fanylion am y cynllun olrhain cysylltiadau ar y siart llif yma.

Darllen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru am olrhain cysylltiadau

Hysbysiadau preifatrwydd

  • COVID-19 - Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau GIG Cymru  (PDF)
  • COVID-19 – Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau GIG Cymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (PDF)

Cyfarwyddyd i gyflogwyr

Edrychwch ar gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifoldebau olrhain cysylltiadau yn y gweithle

Mae’r cyfarwyddyd yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • sut gofynnir i gyflogeion hysbysu eu cyflogwr os gofynnir iddynt hunanynysu fel rhan o’r broses olrhain cysylltiadau
  • pa gefnogaeth sydd ar gael os oes achos o Covid-19 yn y gwaith
  • yr amser lleiaf a mwyaf y gellir dweud wrth gyflogai am hunanynysu
  • pa gefnogaeth ddylai cyflogwyr ei rhoi i’w cyflogeion os gofynnir iddynt hunanynysu, gan gynnwys manylion am dâl salwch a lwfans cymorth cyflogaeth
  • pryd dylai cyflogeion archebu prawf coronafeirws a sut gallant gael un
  • sut gofynnir i gyflogeion roi gwybod i’w cyflogwr os byddant yn profi’n bositif am y coronafeirws
  • beth mae olrhain cysylltiadau yn ei gynnwys a’r diffiniad o gysylltiad
  • am faint fydd pobl yn cael cyngor i hunanynysu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws

Mae gan bob busnes gyfrifoldeb i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarwyddyd coronafeirws diweddaraf a sicrhau bod eu cyflogeion yn gwybod am y prosesau cysylltiedig â phrofi ac olrhain cysylltiadau. I warchod cyflogeion a chwsmeriaid, dylai cwmnïau sicrhau eu bod yn cymryd pob cam rhesymol i gadw at y gyfraith cadw pellter cymdeithasol yn y gwaith.

Cyfarwyddyd i bobl hunangyflogedig

Y cyngor gan Lywodraeth Cymru yw parhau i weithio o gartref os yw hynny’n bosib. Os nad yw hynny’n bosib, dylid defnyddio’r cyfarwyddyd ar  Diogelu Cymru yn y Gwaith should be used.

Gwarchod eich hun rhag sgamiau

Mae gwasanaeth Safonau Masnach Caerffili eisiau i drigolion fod yn ymwybodol o dwyllwyr sy'n esgus eu bod nhw'n aelodau o dîm tracio ac olrhain newydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae tîm pwrpasol o swyddogion olrhain cysylltiadau wedi cael y dasg o dracio ac olrhain lledaeniad COVID-19 yn yr ardal. 

Mae twyllwyr troseddol wedi manteisio ar y sefyllfa bresennol i esgus bod yn swyddogion olrhain cysylltiadau, ac maen nhw wedi bod yn ceisio cael manylion personol er eu budd eu hunain. 

Mae'r gwasanaeth Safonau Masnach eisiau eich atgoffa chi na fydd swyddogion olrhain cysylltiadau go iawn byth yn gofyn am unrhyw fanylion ariannol, fel rhif PIN neu gyfrineiriau bancio. Hefyd, ni fydd neb o'r tîm tracio ac olrhain yn galw heibio i chi – rhowch wybod i'r heddlu am unrhyw ymweliadau o'r fath.

Os bydd y troseddwyr hyn yn cysylltu â chi, rhowch wybod am y digwyddiad naill ai drwy ffonio Action Fraud ar 0300 123 2040, Llinell Gymorth Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg), neu Safonau Masnach Caerffili ar 01443 811300.

Darllenwch y dudalen wybodaeth yma am sgamiau fel eich bod yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng gweithiwr olrhain cysylltiadau a sgamiwr.

Mwyaf poblogaidd
  • Ap COVID-19 y GIG
  • Canolfannau profi dros dro am coronafeirws
  • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
  • Cymorth busnesa chyngor
  • Gwasanaethau'r Cyngor yn ystod coronafeirws
  • Taliad Cymorth Hunanynysu
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch y dudalen hon
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl