Y gwaharddiad ar smygu

Mae’n anghyfreithlon smygu ym mhob man cyhoeddus caeedig yng Nghymru gydag ychydig iawn, iawn o eithriadau. Mae’r gyfraith yn berthnasol i dafarnau, clybiau, bwytai, barrau, siopau, sinemâu, canolfannau hamdden, canolfannau siopa, gweithleoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cysgodfannau bws a gorsafoedd bysiau.

Rhaid i gyflogwyr, rheolwyr a’r rheiny sy’n rheoli mangreoedd arddangos arwyddion dim smygu ac atal unrhyw un rhag smygu yn eu mangreoedd. Os nad ydynt yn gwneud hyn gallent wynebu dirwy. Gall unigolion hefyd gael dirwy neu hysbysiad cosb benodedig o £50 os ydynt yn smygu mewn mangre ddi-fwg.

Amcangyfrifir bod dod i gysylltiad â mwg ail-law yn creu cynnydd o 24 y cant i’r risg y bydd oedolion nad ydynt yn smygu yn cael canser yr ysgyfaint a chynnydd o 25 y cant i’r risg y bydd oedolion nad ydynt yn smygu yn cael clefyd y galon. Mae smygu goddefol hefyd yn achosi clefyd resbiradol ac asthma ymysg oedolion nad ydynt yn smygu a phlant.

Rhoi gwybod am achos o beidio â chydymffurfio

I roi gwybod am achos o beidio â chydymffurfio â’r gyfraith neu i gael cyngor a chyfarwyddyd ar gydymffurfio â’r gwaharddiad, rhowch wybod inni amdano.

Byddwn yn ymdrin ag unrhyw gwynion ac mae gennym bwerau i fynd i mewn i fangreoedd i ganfod a gydymffurfir â’r ddeddfwriaeth. Gallwn roi hysbysiadau cosb penodedig i unrhyw un yr ydym yn credu ei fod yn troseddu, neu wedi troseddu, o dan y gyfraith.

Angen cymorth i roi’r gorau i smygu?

Os oes, cysylltwch â 

  • Llinell Gymorth i Smygwyr yng Nghymru ar 0800 169 0 169
  • Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan ar 0800 085 2

Posteri a thaflenni

Cysylltwch â ni