Sgamiau a negeseuon sgamio

Mae sgamwyr yn mynd ati i gael eich arian oddi arnoch. Dylai pawb fod yn wyliadwrus gan fod sgamwyr yn soffistigedig iawn wrth dwyllo pobl bod yr hyn maen nhw’n ei gynnig yn ddilys.

Rhoi gwybod am sgâm

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef sgâm, bydd angen ichi roi gwybod amdano i  Wasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth a fydd wedyn yn cyfeirio unrhyw achosion y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach atom ni. Gallwch hefyd roi gwybod am sgamiau neu dwyll amheus i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk.

Sgamiau cyffredin i wylio amdanynt

Mae’r canlynol yn sgamiau nodweddiadol:

  • Derbyn galwadau ffôn annisgwyl gan unigolyn neu gwmni sy'n awgrymu y gellir lleihau band treth y cyngor eu tŷ  am daliad o ffi ymlaen llaw a thalu canran benodedig o unrhyw ostyngiad a gyflawnir gan y galwr
  • Llythyrau oddi wrth bobl seicig neu glirweledwyr sy’n addo gwneud proffwydoliaethau a fydd yn newid eich ffawd, am ffi. Weithiau maen nhw’n bygwth y bydd pethau drwg yn digwydd os nad ydych yn ymateb.
  • 'Gwe-rwydo’ i ddwyn eich hunaniaeth. Mae sgamwyr o’r fath yn gofyn am fanylion eich cyfrif personol, gan honni eu bod o fusnes dilys rydych chi’n delio ag ef. Byddan nhw’n defnyddio’ch manylion i fynd ag arian o’ch cyfrif neu i brynu eitemau moethus ar eich cyfrif chi.
  • Clybiau gwyliau ffug sy’n cynnig gwyliau moethus am ddim. Ond mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am deithiau awyr, prydau bwyd a phethau ychwanegol eraill. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid ichi oddef cyflwyniad hir i werthu trefniant cyfran gyfnodol ichi nad ydych ei eisiau.
  • Cynlluniau gwerthu/rhoddi pyramid lle gofynnir ichi dalu ffi a recriwtio aelodau newydd. Mae cynlluniau o’r fath yn cynnig enillion mawr ar ôl ichi recriwtio digon o aelodau. Mae’r cynlluniau hyn yn anghyfreithlon bob amser; mae pobl wedi colli miloedd wrth aros am y taliad a addawyd.
  • Loterïau a chystadlaethau sy’n addo eich bod wedi ennill rhywbeth ond bod yn rhaid ichi anfon ffi “gweinyddol" yn gyntaf. Mae’r sgamwyr hyn yn gwneud arian o’r ffioedd mae pobl yn eu hanfon. Gochelwch rhag galwadau ffôn symudol fel hyn, gan y bydd ffonio’r rhif maen nhw’n gofyn ichi ei ffonio’n costio ffortiwn ar eich bil nesaf.
  • Gwasanaethau SMS (testun) nad ydych eu heisiau ar eich ffôn symudol. Gwiriwch yr holl delerau ac amodau’n ofalus. Ni ddylid codi arnoch am wasanaeth testun oni bai eich bod wedi cytuno i’w gael. Tecstiwch STOP i’r rhif a dylai’r gwasanaeth stopio.
  • Mae sgamiau arian tramor a sgamiau ffioedd ymlaen llaw yn cynnig swm mawr o arian ichi am wneud rhywbeth sy’n ymddangos yn fach fel anfon ffi bychan. Mae’n bosibl y byddan nhw’n honni eu bod yn ceisio cael arian allan o’u gwlad, fod rhywun wedi gadael arian ichi mewn ewyllys dramor, neu y rhoddwyd benthyciad mawr ichi ar gyfraddau ffafriol. Ni fyddwch yn gweld yr arian a anfonwch byth eto.
  • Mae cyfleoedd i weithio o’ch cartref yn hysbysebu gwaith am dâl o’ch cartref gan orliwio’r symiau y gallwch eu hennill. Byddan nhw’n gofyn am arian ymlaen llaw i brynu cyflenwadau neu i ddatgelu “cyfrinach”. Peidiwch byth ag ateb unrhyw hysbyseb o’r fath sy’n gofyn am arian ymlaen llaw.
  • Asiantaethau paru ar-lein sy’n cynnig cymar delfrydol o wlad dramor. Mae’n bosibl y bydd sgwrs yn dechrau gyda’r cymar delfrydol. Yn y diwedd bydd yn dechrau gofyn ichi am arian am bethau fel ei addysg, ei deulu tlawd neu i dalu am daith awyren i ddod i’ch gweld.
  • Bydd cyfleoedd buddsoddi euraid yn cynnig cyfle ichi roi’ch arian mewn cynllun di-feth i wneud arian trwy fuddsoddi mewn pethau fel cyfrannau, gwin, gemau ac eitemau prin eraill. Bydd yr eitemau maen nhw’n eu cynnig yn ddrud, â risg uchel iawn ac yn anodd eu gwerthu.
  • Meddyginiaethau gwyrthiol sy’n addo gwellhad ar unwaith o bethau fel colli gwallt, crydcymalau, magu pwysau ac ati.

Beth y gallwch ei wneud

Gochelwch rhag unrhyw beth sy’n cynnig ffordd o ddod yn gyfoethog yn gyflym neu sy’n eich bygwth, yn gofyn ichi anfon arian ymlaen llaw neu’n gofyn am eich manylion personol. Cofiwch, os yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e.

Ystyriwch gofrestru’ch manylion chi, neu fanylion unrhyw un rydych chi’n gofalu amdano, gyda'r Mailing Preference Service a’r Telephone Preference Service i leihau post a galwadau gwerthu nad ydych eu heisiau. Mae’n bosibl y bydd tynnu’ch rhif ffôn o’r llyfr ffôn yn helpu hefyd. 

Rhowch wybod i’ch Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd am negeseuon e-bost sgamio a gwe-rwydo, ac ystyriwch osod meddalwedd gwrth-sbam ar eich cyfrifiadur. 

Cysylltwch â ni