Tybaco anghyfreithlon

Mae ein Gwasanaeth Safonau Masnach ynghyd â Her Iechyd Caerffili wedi lansio ymgyrch i annog preswylwyr i roi gwybod am werthu tybaco a sigaréts anghyfreithlon. 

Beth yw tybaco anghyfreithlon?

Gellir rhannu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon, gan gynnwys sigaréts a thybaco rholio â llaw, i dri math: -

  • Wedi’u smyglo ar raddfa fawr (a elwir hefyd 'illicit whites') sef brandiau o wledydd tramor sy’n cael eu cludo i’r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon i gael eu gwerthu ar y farchnad ddu
  • Wedi’u smyglo ar raddfa fach, sy’n cael eu cludo i’r Deyrnas Unedig o wledydd sydd â threthi is ac yn cael eu hailwerthu’n anghyfreithlon
  • Ffug, sef sigaréts sy’n cael eu cynhyrchu heb awdurdod y perchnogion cyfreithlon, gyda’r bwriad o dwyllo prynwyr. Sigaréts rhad ydyn nhw sy’n cael eu gwneud i edrych fel brandiau sy’n boblogaidd yn y Deyrnas Unedig.

Mae pob cynnyrch tybaco’n niweidiol. Pa un ydyn nhw’n cael eu prynu’n  gyfreithlon gan fanwerthwr neu’n anghyfreithlon ar y farchnad ddu, ym mhob cynnyrch tybaco ceir mwy na 4,000 o gemegion, y gwyddys bod o leiaf 60 ohonyn nhw’n achosi canser.

Bydd un o bob dau smygwr hirdymor yn marw o ganlyniad i’w gaethiwed.

Adnabod tybaco anghyfreithlon

Yr arwyddion di-ffael:

  • Blas anarferol
  • Enwau brandiau o wledydd tramor fel Raquel a Jin Ling
  • Pris rhad (llai na £5 am becyn o 20)
  • Mae’n bosibl nad yw’r rhybuddion iechyd ar y pecynnau sigaréts yn Saesneg, nad oes ganddyn nhw lun, nad ydyn nhw wedi’u hargraffu ar gefndir gwyn a’u bod mewn llythrennau o faint gwahanol i’r arfer
  • Pecynnau anarferol (gwallau sillafu, logos anghywir, pecynnau afliwiedig)
  • Mae ansawdd print y manylion ar y sigarét yn amlwg yn waeth

Cheap tobacco gets kids hookedMae tybaco rhad yn gwneud plant yn gaeth

  • Mae tybaco rhad, sy’n cael ei werthu am bris arian poced, yn ei gwneud yn rhy hawdd o lawer i’n plant smygu a bod yn gaeth iddo
  • Mae delwyr yn targedu smygwyr dan oed yn aml, gan ei gwneud yn haws i blant fynd yn gaeth iddo. A dweud y gwir, mae’n fwy tebygol y caiff tybaco anghyfreithlon ei gynnig i smygwyr ifanc nag i oedolion
  • Mae’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon, rhad yn ei gwneud yn haws i blant smygu ac yn dod â throsedd i gymunedau lleol
  • Fel arfer mae sigaréts a thybaco anghyfreithlon yn cael eu gwerthu am hanner neu hyd yn oed traean y pris, mewn mannau fel tafarnau a chlybiau, siopau, o dai preifat neu gan bedleriaid ar y stryd neu mewn arwerthiannau cist car a marchnadoedd.

Mae pob math o dybaco, yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon, yn lladd hanner yr holl smygwyr hirdymor. Rydyn ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o smygwyr eisiau rhoi’r gorau i smygu ond mae eu hymdrechion i roi’r gorau iddi’n cael eu tanseilio os yw rhywun yn cynnig cyflenwad tybaco rhad iddyn nhw.

Gorfodi

Y llynedd cipiodd Gwasanaeth Safonau Masnach Caerffili, gan weithio mewn partneriaeth â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, dybaco a sigaréts anghyfreithlon oedd yn werth £28,000 ar y stryd. Yn 2017 - 2018, gwnaethom atafaelu cyfanswm o 42,600 o sigaréts anghyfreithlon a ffug ac atafaelwyd arian parod a oedd yn gyfanswm o fwy na £15,000 gan werthwyr y cynhyrchion hyn. Mewn nifer o achosion, roedd y troseddwyr yn denantiaid cyngor felly rhoddwyd gorchmynion troi allan iddynt hefyd.

Mae unrhyw wybodaeth y gallwch ei rhoi inni’n bwysig oherwydd mae’n ein helpu i adnabod y cymunedau a’r cynhyrchwyr, mewnforwyr, dosbarthwyr, busnesau neu unigolion sy’n delio mewn cynhyrchion tybaco anghyfreithlon. Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach yn ymchwilio i’r honiadau hyn a chymerir camau, gan gynnwys erlyniadau, yn erbyn y bobl y canfyddir eu bod yn torri’r gyfraith.
Gall pobl sy’n ymwneud â gwerthu neu gyflenwi tybaco anghyfreithlon wynebu cosbau difrifol:

  • UHyd at 10 mlynedd yn y carchar
  • Dirwy ddigyfyngiad
  • Gellir cipio unrhyw dybaco anghyfreithlon a’r cerbyd a ddefnyddir i’w gludo
  • Gellir cipio enillion y drosedd, boed arian neu asedau gwerthfawr, fel gemwaith, ceir ac eiddo
  • Colli swydd a rhagolygon gwael o gael gwaith oherwydd cofnod troseddol

Rhoi gwybod amdano

Mae pobl sy’n ymwneud â gwerthu neu gyflenwi tybaco anghyfreithlon yn droseddwyr. Helpwch ni i roi terfyn ar y troseddau hyn trwy roi gwybod am unrhyw un rydych chi’n amau ei fod yn ymwneud â nhw i’n Tîm Safonau Masnach.

Rhoi’r gorau iddi

Os ydych chi angen help i roi’r gorau i smygu ewch i wefan Dim Smygu Cymru.

Cysylltwch â ni