Mae Chwarae yn y Parc yn gyfres o sesiynau mynediad agored sy'n cael eu cynnal gan Fwrdeistref Sirol Caerffili drwy gydol gwyliau’r haf.
Gall plant fwynhau celf a chrefft, syniadau chwarae rhad a chwaraeon - cafodd y plant ddigonedd o hwyl! Cafodd cyfanswm o 2000 o blant a'u teuluoedd gyfle i fwynhau profiadau chwarae cyfoethog ac ystyrlon yn ystod 2022 ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn ystod yr haf hwn.