Cymorth i rieni
Mae llawer o ffyrdd y gallwn ni helpu i’ch cefnogi chi yn y gwaith pwysig hwn o fod yn rhiant. Os oes diddordeb gennych yn un o’r rhaglenni i rieni neu os hoffech wybod mwy am gymorth i deuluoedd, cysylltwch â’r tîm cymorth i deuluoedd.
Rhaglenni neu gyrsiau i rieni
Mae amrywiaeth o raglenni i rieni yn cael eu cynnig gan y Timau Iechyd, ein Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd, partneriaid sydd wedi’u comisiynu’n lleol i gyflwyno rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn ogystal â phartneriaid prosiect eraill. Caiff y rhaglenni i rieni eu cyflwyno mewn grwpiau bach o rieni mewn lleoliad cymunedol yn eich cymuned leol neu gymuned gyfagos.
- Rhaglen Meithrin Rhieni - Mae’r rhaglen 10 wythnos hon ar gyfer rhianta cadarnhaol yn helpu i gefnogi rhieni i ddatblygu hunan-ymwybyddiaeth a hunan-fri, disgwyliadau priodol, empathi a disgyblaeth gadarnhaol.
- Rhaglenni Blynyddoedd Anhygoel - Mae’r sesiynau yn amrywio o 6-16 ac yn canolbwyntio ar ddatblygiad, ymlyniad ac ymddygiad plant a gosod ffiniau realistig.
- Bywydau Teuluoedd - Mae sawl cwrs gwahanol o 1 i 4 sesiwn yn cwmpasu pob math o faterion fel baban newydd yn y teulu, datrys dadleuon yn y teulu, dod ymlaen gyda’ch plentyn yn ei arddegau, magu plant hyderus yn ogstal ag odrannau a chamau datblygu gwahanol.
- Rhaglen i rieni yn eu harddegau Triple P - rhaglen 5-8 wythnos sy’n cael ei darparu fel rhan o grŵp yn bennaf. Byddwn yn edrych ar rianta cadarnhaol, annog ymddygiad priodol, rheoli ymddygiad problematig a delio gydag ymddygiad peryglus. Mae’r rhieni yn mwynhau’r awyrgylch cefnogol ac yn hoffi’r sesiwn dewisiadau a chanlyniadau yn arbennig a’r ffaith ei bod yn gwella eu hyder wrth gyfathrebu gyda’u plant yn eu harddegau.
- Rhieni fel yr Athrawon Cyntaf (PAFT) - Rhaglen yn y cartref sy’n eich helpu i adnabod camau datblygiad eich plentyn a sut i gefnogi datblygiad ei sgiliau orau fel rhiant. Mae’r rhaglen hon yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan rieni.
Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd
Mae ein Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd profiadol yn cynnig cymorth 1:1 yn eich cartref yn ogystal â’r gymuned. Eu rôl yw eich cefnogi chi a’ch teulu gyda rheolaeth o ddydd i ddydd, rhoi help gyda sgiliau bywyd a darparu rhwydwaith i’ch cefnogi.