Dechrau’n Deg

Darparu cymorth ychwanegol i gael plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd

Ynglŷn â Dechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd dan anfantais yng Nghymru.

Mae’r help yn cynnwys:

Gofal plant Dechrau’n Deg

Os ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae eich plentyn yn gymwys i le gofal plant wedi’i ariannu am 2 awr a hanner, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dwy oed i’r tymor pan maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn tair oed.

 
Defnyddiwch lythrennau mawr, e.e CF11 1AA

Rhagor o wybodaeth…

Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ehangach

Mae Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn eich helpu chi gyda rhianta ac yn darparu unrhyw help a chyngor a allai fod angen arnoch chi, o’r cyfnod cyn geni hyd at 3 blwydd ac 11 mis oed.

Rhagor o wybodaeth…

Cymorth i deuluoedd

Yn Dechrau’n Deg Caerffili, rydyn ni’n gwerthfawrogi rhieni, gofalyddion a theuluoedd ehangach fel yr addysgwyr cyntaf a pwysicaf plant. Mae hyn wrth wraidd yr holl wasanaethau rydyn ni’n eu darparu.

Mae cymaint o ffyrdd y gall Dechrau’n Deg Caerffili eich helpu chi fel rhiant.

Rhagor o wybodaeth…

Cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu

Cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yw nod craidd y rhaglen Dechrau’n Deg.

Rhagor o wybodaeth…

Dilynwch ni

Facebook