Fframwaith Asesu Teuluoedd ar y Cyd
Os ydych chi'n deulu a hoffech dderbyn cymorth gan Deuluoedd yn Gyntaf, nid oes angen i chi lenwi ffurflen atgyfeirio. Ewch i’n hadran ar sut allaf dderbyn cymorth am fwy o wybodaeth.
Gwybodaeth am bobl broffesiynol i atgyfeirio
Er mwyn i weithwyr proffesiynol gyfeirio teuluoedd at brosiectau Teuluoedd yn Gyntaf, rhaid i'r teulu gael ei gyfeirio at y gwasanaeth trwy ein Ffurflen Atgyfeirio Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd.
Mae'r Ffurflen Atgyfeirio Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd yn asesiad cymesur o'r teulu sy'n nodi eu hanghenion aru gwasanaethau y byddai'r bobl broffesiynol a’r teulu yn meddwl eu bod yn briodol iddynt.
Rhaid i deuluoedd rhoi caniatâd i weithio gyda Theuluoedd yn Gyntaf a bod wedi darllen yr hysbysiad preifat (PDF). Mae hefyd gennym fersiwn hawdd i’w ddarllen o’r rhybudd preifat (PDF).
Yna caiff y ffurflen Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd ei asesu gan ein Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar gyfer addasrwydd a'i hanfon at y gwasanaethau perthnasol ar gyfer dechrau ymyrraeth.
Mae’r ffurflen ar gael i’w lawrlwytho isod gyda’r nodiadau canllaw. Cwblhewch yn electronig a dychwelwch drwy e-bost at contactandreferral@caerphilly.gov.uk.
Ffurflen Atgyfeirio Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (WORD)
Nodiadau canllaw (PDF)
Nodwch: Er mwyn i’r ffurflen Atgyweirio Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd gael ei brosesu, rhaid derbyn caniatâd ar lafar neu yn ysgrifenedig. Rhaid i chi anfon y ffurflen Atgyweirio Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd i IAA mewn fformat Word gyda chopi wedi ei arwyddo o’r ffurflen Atgyweirio Fframwaith Asesu Teuluoedd ar y Cyd (wedi ei sganio neu fersiwn (PDF) drwy e-bost diogel.
Gwybodaeth bellach
Os ydych yn ansicr ynghylch â pha prosiect fydd yn well ar gyfer eich anghenion neu os ydych am gael mwy o wybodaeth am y prosiectau, ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Caerffili ar 0808 100 1727.