Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf

Cefnogi Newidiadau Teulu

Mae Cefnogi Newidiadau Teulu yn cydlynu cymorth i deuluoedd ar adegau o angen. Mae’r prosiect yn ffurfio Tîm o Amgylch y Teulu i gynnig cymorth pan fo mwy nag un angen gan deulu.

Mae gan bob teulu weithiwr cymorth. Maen nhw'n gweithio gydag asiantaethau eraill i ddatblygu cynllun sy’n canolbwyntio ar gryfderau’r teuluoedd. Gyda'i gilydd maen nhw'n darparu cyfleoedd i gael mynediad at ymyriadau cymorth eraill a meithrin cadernid.

Ffôn: 01495 233232
Ebost: CefnogiNewidiadauTeulu@caerffili.gov.uk

Parch Ieuenctid

Mae Parch Ieuenctid yn brosiect ar gyfer plant dros 10 oed. Bydd y plant hyn yn dangos ymddygiad heriol iawn yn eu teulu a’u perthnasoedd. Gall hyn gynnwys ymddygiad camdriniol, ymosodol a rheolaethol.

Dim ond Cefnogi Newidiadau Teulu a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid sy'n gallu gwneud atgyfeiriad at y gwasanaeth hwn.

Ffôn: 01495 235623
Ebost:GwasanaethTroseddauIeuenctid@caerffili.gov.uk

Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd Targedig

Mae Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn darparu ymyriadau â chymorth i blant 8 oed neu’n hŷn. Y nod yw datblygu eu sgiliau sy'n eu helpu nhw dod yn fwy hyderus. Maen nhw hefyd yn cael cymorth i feithrin hunan-barch a gwytnwch.

Mae Ymgysylltu â Theuluoedd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r gweithgareddau'n helpu gwella'r perthnasoedd o fewn y teulu.

Mae Ymgysylltiad ag Ieuenctid ac Ymgysylltu â Theuluoedd yn darparu sesiynau unigol a sesiynau grŵp gyda rhieni, plant a phobl ifanc.

Mae Anturiaethau Caerffili yn darparu sesiynau awyr agored i ennyn diddordeb plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Gall Rhieni Ifanc fynychu sesiynau yn y gymuned. Mae'r grwpiau'n eu cynorthwyo nhw i oresgyn rhwystrau a mynd i’r afael â heriau sy’n eu hwynebu. Mae hyn yn eu helpu nhw i dyfu a datblygu fel pobl ifanc a rhieni.

Ffôn: 01443 863194
Ebost: Ieuenctid@caerffili.gov.uk

Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach

Mae Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn darparu cymorth rhianta wedi’i thargedu ar gyfer teuluoedd â phlant 8 i 17 oed.  Mae'r gwasanaeth Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i greu cynllun cymorth sy’n diwallu anghenion y teulu. 

Mae dull sy'n dechrau gyda chryfderau'r teulu yn helpu meithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol, parchus. Mae ymarferwyr Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn dangos i rieni sut i wella eu sgiliau magu plant. Mae hyn yn helpu gyda datblygiad, gofal a lles eu plant. Mae Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn cynnig pecynnau cymorth i ddiwallu ystod o anghenion

Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad, arferion a ffiniau. Bydd teuluoedd yn cael sesiynau unigol cychwynnol yn y cartref neu ar-lein. Yna, mae rhieni'n gallu symud ymlaen i fynychu rhaglenni grŵp. Mae'r rhain yn digwydd yn y gymuned neu ar-lein. Os oes angen, bydd cymorth unigol pellach wedi'i deilwra yn cael ei gynnig. (Cyfeiriwch at wasanaethau cymorth y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant 0 i 7 oed).

Barnardos: 0300 124 0988
Ebost: CPSFServices@Barnardos.org.uk

‘Platfform for Families’ - Prosiect Lles

Mae’r prosiect hwn yn gweithio gydag unigolion neu’r teulu cyfan sydd ag anghenion iechyd meddwl lefel isel neu les. Gall hyn gynnwys rhieni, gofalwyr, pobl ifanc a phlant.

Bydd y cymorth yn dechrau gyda sesiynau unigol. Mae hyn yn symud ymlaen i sesiynau grŵp neu sesiynau unigol pellach lle bo angen. Mae’r gwasanaeth yn cynnig lle diogel i deuluoedd gwrdd, sgwrsio a chael cymorth ar gyfer eu lles. Gall teuluoedd rannu profiadau ag eraill sy’n wynebu heriau tebyg.

Mae'r sesiynau hyn yn helpu teuluoedd i ail-gysylltu er mwyn adeiladu gwytnwch a rhwydwaith o gymorth. Mae’r prosiect yn helpu teuluoedd i archwilio eu hanghenion, eu disgwyliadau a dod o hyd i strategaethau defnyddiol i wella'u lles. Mae cyngor ar  sut i gynorthwyo eraill yn y teulu a allai fod yn cael trafferth.

Platfform: 01495 245802
Ebost: families@platfform.org

Dewch i Drafod Arian

Mae 'Dewch i drafod arian' yn darparu cyngor ar ddyled, budd-daliadau lles a gallu ariannol. Mae'r cyngor yn arbenigol a rheoledig.  Maen nhw'n cynorthwyo cleientiaid i drafod gyda chredydwyr.

Maen nhw'n darparu cyngor ar bob datrysiad dyled gan gynnwys gorchmynion methdaliad a rhyddhad dyled.

Mae’r prosiect yn helpu teuluoedd i wneud y mwyaf o'u hincwm. Mae teuluoedd yn dysgu sut i reoli eu harian yn fwy effeithiol. Gall hyn helpu i atal digartrefedd.

Cyngor ar Bopeth: 01443 878059
Ebost: Admin1@cacbg.org.uk

Cam-drin Domestig

Dim Ofn – Cymorth i Blant a Phobl Ifanc

Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig. Maen nhw'n cynnig sesiynau unigol a sesiynau grŵp. Maen nhw'n cynorthwyo pobl ifanc er mwyn iddyn nhw archwilio a rhannu eu profiadau a'u teimladau.

Efallai bydd y sesiynau unigol yn digwydd yn y cartref, yr ysgol, neu leoliad priodol arall.

Mae'r sesiynau grŵp yn cynnwys gweithgareddau â ffocws sy'n dod â phlant a phobl ifanc at ei gilydd. Mae grwpiau'n addas i’w hoedran.  

Diogelwch Teulu sy’n dioddef Cam-drin Domestig

Mae’r prosiect hwn yn cynnig sesiynau unigol sy’n darparu gwaith, cymorth, ac arweiniad diogelwch ar unwaith. Mae hyn yn galluogi teuluoedd wedi'u heffeithio gan gam-drin domestig i aros yn eu cartref.

Mae'r prosiect hwn hefyd yn darparu sesiynau grŵp i rieni. Mae’r sesiynau hyn yn dangos yr effaith y mae cam-drin domestig yn ei chael ar eu plant.

Mae'r sesiynau hyn yn helpu rhieni adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen i gadw eu teuluoedd yn ddiogel rhag camdriniaeth yn y dyfodol.

Llamau - Gwasanaethau Cam-drin Domestig: 029 2086 0255
Ebost: SaferCaerphilly@llamau.org.uk

Eiriolaeth

Mae dau wasanaeth eiriolaeth ar gael o fewn y prosiect hwn.

Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc

Mae hwn yn wasanaeth eiriolaeth cyfrinachol, annibynnol sy'n seiliedig ar faterion. Mae'n cynorthwyo plant a phobl ifanc trwy eu helpu nhw i leisio’u barn. 

Mae’r prosiect y gweithio ar sail 1:1 er mwyn galluogi plentyn, neu berson ifanc, i leisio eu barn, dymuniadau a theimladau. Gall hyn eu helpu i stopio, dechrau neu newid rhywbeth.

Eiriolaeth Rhieni

Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol, annibynnol i rieni. Mae'n helpu rhieni i gael llais. Mae’r prosiect yn gweithio ar sail 1:1.

Gall y gwasanaeth helpu rhieni ddatrys amrywiaeth o faterion. Gall hyn gynnwys gwneud newidiadau, ymgysylltu â gwasanaethau cymorth a llywio systemau.

Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: 0808 808100
Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc: help@nyas.net
Eiriolaeth Rhieni: caerphillyparentadvocacy@nyas.net

Gofalwyr Ifanc

Mae'r prosiect hwn yn dod â Gofalwyr Ifanc ledled Caerffili at ei gilydd. Mae pobl ifanc yn cwrdd mewn sesiynau grŵp rheolaidd.

Mae'r sesiynau yn galluogi pobl ifanc i rannu ac archwilio eu profiadau. Mae hyn yn helpu rhoi teimlad o gymorth iddyn nhw a chael amser i ffwrdd o'r rôl ofalu.

Mae’r prosiect yn cynnig cymorth lles, sesiynau gwybodaeth a gweithgareddau llawn hwyl.

Ffôn: 01495 233218 neu 01495 233234
Ebost: gofalwyr@caerffili.gov.uk

Fforwm Cymunedol

Mae'r fforwm cymunedol yn rhoi cyfle i unigolion gwrdd ag eraill yn eu cymuned leol. Maen nhw'n cynnal cyfarfodydd cymorth grŵp wythnosol. Yn y cyfarfodydd hyn, gall pobl ddysgu sgiliau newydd a chael profiad gwirfoddoli.

Mae amrywiaeth o weithgareddau yn bodloni anghenion y grŵp. Gall gweithgareddau gynnwys lles, cymorth llythrennedd digidol, dosbarthiadau coginio a gwnïo a gweithdai crefft. Maen nhw hefyd yn trefnu gweithgareddau awyr agored a chymwysterau a sgiliau ar gyfer cyflogaeth.

Maen nhw hefyd yn annog pobl i gyfrannu at drafodaethau ac ymgynghoriadau am faterion lleol. Maen nhw'n cynorthwyo pobl i leisio'u barn ar bethau a allai effeithio ar eu bywydau.

Bydd unigolion hefyd yn cael cyfle i gofrestru a hyfforddi fel Hyrwyddwr Cymunedol, Rhiant, Iaith neu Les. Mae hyrwyddwyr yn cynorthwyo teuluoedd yn eu cymuned leol gan helpu i'w cyfeirio nhw at wasanaethau lleol.

Rhwydwaith Rhieni: 01443 875444
Ebost: Admin@parentcaer.org.uk

Manylion Cyswllt MYND

Mae MYND yn brosiect atal ar gyfer plant rhwng 8 a 17 oed sy'n byw ym Mlaenau Gwent a Chaerffili sydd mewn perygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu droseddu.

Bydd pob plentyn yn gweithio'n agos gydag aelod o dîm MYND am 3 i 6 mis. Mae'r ymyriad yn wirfoddol.

Gall staff o unrhyw wasanaeth/asiantaeth atgyfeirio plentyn os oes arwyddion bod y plentyn yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu y gallai ddod yn rhan o droseddu.

Ffôn: 01495 235623
Ebost: GwasanaethTroseddauIeuenctid@caerffili.gov.uk

Manylion Cyswllt Teuluoedd yn Gyntaf 

Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, cysylltwch â:

Ffôn: 01443 864151
Ebost: teuluoeddyngyntaf@caerffili.gov.uk

Mae gan Deuluoedd yn Gyntaf Caerffili dudalen Facebook. Mae gwybodaeth am brosiectau a gweithgareddau.

Cysylltwch â ni