Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Plant a Theuluoedd    Plant ag anableddau

 FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd ein ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 8:15yh ar 25/06/2022 a 4:30yb ar 26/06/2022, tra bod gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Our online forms will be unavailable between 8:15pm on the 25/06/2022 and 4:30am on 26/06/2022 whilst essential maintenance is carried out. We apologise for any inconvenience this may cause.

Plant ag anableddau

Pwy yw'r tîm?

Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant a'u teuluoedd o fewn egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Pwy sy'n gymwys i gael ei atgyfeirio i'r gwasanaeth?

Plant a phobl ifanc o dan 18 oed ag anableddau parhaol a sylweddol*, cyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a/neu anghenion iechyd cymhleth sy'n effeithio ar eu bywyd bob dydd; er enghraifft:
 
  • Anabledd dysgu difrifol; 
  • Anabledd synhwyraidd sylweddol;
  • Anabledd corfforol difrifol; neu
  • Anableddau lluosog (sef cyfuniad o anableddau - corfforol, gwybyddol, cyfathrebu a synhwyraidd eu natur)
*Anabledd parhaol a sylweddol yw'r angen am lefel uchel o gymorth gydag offer, a/neu berson arall i gyflawni swyddogaethau - e.e. gofal personol, bwyta neu gerdded - y disgwylir iddo barhau trwy gydol bywyd unigolyn.
Ystyrir atgyfeiriadau i'r tîm yn seiliedig ar ba effaith y mae'r anabledd yn ei chael ar fywyd beunyddiol y plentyn ac nid yn seiliedig ar ddiagnosis.

Beth maen nhw'n ei wneud?

Ar ôl i’r atgyfeiriad ddod i law, bydd y tîm yn nodi'r person gorau i weithio gyda'r plentyn a'r teulu ar sail y wybodaeth a ddarperir.
Bydd y tîm yn cynnal sgwrs “beth sy'n bwysig” i ddarparu gwybodaeth, cyngor, atgyfeirio a chynorthwyo. Lle y bo'n briodol, byddant yn cynnal sgwrs fwy manwl (a elwid yn gynt yn asesiad) i nodi canlyniadau personol i'r plentyn, ei rieni/ofalyddion. Bydd y gweithiwr yn gweithio gyda theuluoedd i nodi cryfderau ac atebion addas.
Bydd y gweithiwr yn siarad â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n adnabod y plentyn, fel athrawon, gweithwyr iechyd a, lle bo hynny'n briodol, aelodau teulu a ffrindiau cefnogol i lywio'r broses. 
Gall atebion gynnwys defnyddio'r rhwydwaith teuluol, atgyfeirio at adnoddau o'r gymuned, asiantaethau eraill ar gyfer ymyrraeth tymor byr wedi'i dargedu, gwaith uniongyrchol gydag aelodau o'r tîm neu atgyfeiriadau ar gyfer cyrsiau hyfforddi sy'n benodol ar gyfer anabledd y plentyn. Gellir ceisio ymyrraeth hefyd gan asiantaeth bartner; gan gynnwys therapi galwedigaethol cymunedol, iechyd, addysg, y sector gwirfoddol.
Mae'n ofynnol i'r tîm weithio o fewn polisïau a gweithdrefnau diogelu
Efallai y bydd angen asesiad arbenigol gan y therapydd galwedigaethol ac arweiniad mewn technegau amgen i helpu plentyn i ddatblygu, neu adfer a chynnal sgiliau gweithredol. Gall asesiad symud a chodi a chario dynnu sylw at yr angen am offer a chyngor arbenigol. Bydd hyn yn cael ei gwblhau gan gydweithwyr yn ein Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol.

Gofyn am wybodaeth, cyngor a chymorth

Gallwch chi, neu weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn, ofyn am wybodaeth, cyngor a/neu gymorth i'r plentyn, neu chi fel rhiant ofalwr, drwy gysylltu â thîm cyswllt ac atgyfeirio gwasanaethau plant.

Rhieni a gofalyddion

Mae rhieni, brodyr a chwiorydd a gofalyddion yn gymwys i gael sgwrs am “beth sy’n bwysig” (a elwir yn asesiad gofalydd) yn eu rhinwedd eu hunain. Gellir gwneud hyn naill ai fel rhan o asesiad y plentyn neu gellir gwneud atgyfeiriad at dîm gofalyddion ymroddedig y Fwrdeistref gofalyddion@caerffili.gov.uk.
Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch y dudalen hon

Mwy

Cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel

Tudalennau Cysylltiedig

Pas bws pobl anabl | Budd-daliadau iechyd a gofal cymdeithasol

Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl