Cynnig Gofal Plant i Gymru
O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru bob wythnos, hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r cynllun yn anelu i wneud bywyd yn haws i rieni/ofalyddion drwy ddarparu cymorth gyda chostau gofal plant.
Mae’r cynnig eisoes wedi helpu rhieni/gofalyddion ar draws Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio yn fwy hyblyg. Un o amcanion y cynllun yw rhoi mwy o arian i rieni/ofalyddion sy’n gweithio yn fisol iddynt gael gwario ar bethau sy’n bwysig i’r teulu.
Pwy sy'n gymwys?
I fod yn gymwys i dderbyn gofal plant am ddim, rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwysedd canlynol:
- Mae eich plentyn yn 3 neu’n 4 oed ac yn gallu cael mynediad at addysg ran amser
- Rydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Ac:
- Mae pob rhiant, neu gyplau sy'n cyd-fyw ar yr aelwyd yn gweithio ac yn ennill cyflog sy’n cyfateb i 16 awr o leiaf ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol neu’n fwy, neu
- Mae un rhiant yn gyflogedig a bod gan un rhiant gyfrifoldebau gofalu sylweddol seiliedig ar fudd-daliadau penodol a dderbynnir am ofalu; neu
- Mae’r ddau riant yn gyflogedig, ond bod y naill riant a’r llall i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb rhieni, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, neu
- Mae’r ddau riant yn gyflogedig, ond bod un neu’r ddau riant i ffwrdd o’r
- gweithle dros dro ar dâl salwch statudol, neu
- Mae un rhiant yn gyflogedig a bod un rhiant yn anabl neu’n analluog ar sail derbyn budd-daliadau penodol
Pryd i wneud cais?
O’r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn 3 oed, gallai'ch plentyn hawlio hyd at 20 awr o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth. Mae hyn yn ychwanegol at y 10 awr sydd yn cael ei darparu gan y Cyfnod Sylfaen rhan amser a hyd at 30 awr o ofal plant yn ystod y gwyliau ysgol.
Dyddiad Geni'r Plentyn
|
Pryd allaf wneud cais? * Sylwch nad oes dyddiadau cau
|
Pryd all fy mhlentyn gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant? * nodwch, dim ond ar ôl cael cadarnhad bod prosesau’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Lleoli Plant Unigol wedi’u cwblhau y bydd y cyllid yn cychwyn. Nid yw'r taliad yn cael ei ôl ddyddio i ddechrau'r tymor
|
1 Medi 2016 i 31 Rhagfyr 2016
|
10/08/2020
|
Tymor y Gwanwyn 2020 i Dymor yr Haf 2021
(6 Ionawr 2020 i 29 Awst 2021)
|
1 Ionawr 2017 i 10 Ebrill 2017
|
10/08/2020
|
Tymor yr Haf 2020 i Dymor yr Haf 2021
(20 Ebrill 2020 i 29 Awst 2021)
|
11 Ebrill 2017 tan 31 Awst 2017
|
24/08/2020
|
Tymor yr Hydref 2020 i Dymor yr Haf 2021
(1 Medi 2020 i 29 Awst 2021)
|
1 Medi 2017 i 31 Rhagfyr 2017
|
26/10/2020
|
Tymor y Gwanwyn 2021 i Dymor yr Haf 2022
(4 Ionawr 2021 i ddiwedd Awst 2022)
|
1 Ionawr 2018 i 2 Ebrill 2018
|
15/02/2021
|
Tymor yr Haf 2021 i Dymor yr Haf 2022
(12 Ebrill 2021 i ddiwedd Awst 2022)
|
3 Ebrill 2018 i 31 Awst 2018
|
31/05/2021
|
Tymor yr Hydref 2021 i Dymor yr Haf 2022
(Dechrau Medi 2021 i ddiwedd Awst 2022)
|
Am ddyddiadau tymor ysgol, ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Schools-and-learning/Schools,-term-dates-and-closures?lang=cy-gb
Sut i wneud cais
I wneud cais, fe fydd angen i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gais. Fe fyddwn ni wedyn yn gwirio eich bod yn gymwys ac yn eich e-bostio i gadarnhau os ydych yn gymwys.
Am ragor o wybodaeth ar y broses o wneud cais am y Cynnig Gofal Plant i Gymru, cliciwch ar y ddolen isod:
Gwybodaeth bellach
Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
I gael gwybod am y gofal plant sydd ar gael, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerffili ar 01443 863232 neu e-bostiwch ggid@caerffili.gov.uk.