FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Ail-gofrestru genedigaeth

Mae amryw o amgylchiadau pan fydd angen ail-gofrestru genedigaeth. 

Mae amryw o amgylchiadau pan fydd angen ail-gofrestru genedigaeth

Yn ôl y gyfraith, yng Nghymru neu Loegr, os bydd rhieni naturiol plentyn yn priodi ar ôl genedigaeth y plentyn, yna mae'n rhaid ail-gofrestru'r enedigaeth.

Yn yr un modd, os caiff babi ei eni i ddwy riant benywaidd o dan amodau'r Ddeddf Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol 2008 mae darpariaethau i ail-gofrestru'r enedigaeth yn dilyn priodas neu seremoni partneriaeth sifil y ddwy riant benywaidd.

Er mwyn ail-gofrestru'r enedigaeth, mae'n rhaid bodloni pob un o'r amodau canlynol:

  • ganwyd y plentyn yng Nghymru neu yn Lloegr (nid yn farw-anedig)
  • mae'r cofnod geni presennol yn nodi'r dyn cywir fel y tad neu fod manylion y tad wedi'u gadael yn wag neu'n nodi'r ail riant benywaidd cywir neu gadawyd y manylion hynny'n wag.
  • mae'r rhieni wedi priodi neu ffurfio partneriaeth sifil ar ôl genedigaeth y plentyn ac mae tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil ar gael
  • roedd y plentyn yn fyw ar ddyddiad priodas neu bartneriaeth sifil y rhieni
  • nad yw'r plentyn wedi ei fabwysiadu yn gyfreithiol
  • mae un rhiant yn mynychu swyddfa gofrestru yng Nghymru neu Loegr i ail-gofrestru
  • mae'r ffurflen gais wedi'i chwblhau a'i llofnodi

Ail-gofrestru genedigaeth heb briodas neu bartneriaeth sifil

Os na wnaethoch chi nodi manylion tad y babi neu'r ail riant benywaidd ar y gofrestr wrth i chi gofrestri'r enedigaeth gallwch ychwanegu'r manylion hyn yn hwyrach ymlaen.

Os nad ydych wedi priodi'r tad neu briodi neu ffurfio partneriaeth sifil â'r ail riant benywaidd, gallwch ychwaneguD'r manylion yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae'r rhieni yn mynychu gyda'i gilydd er mwyn rhoi'r wybodaeth ar y cyd ar gyfer yr ail-gofrestriad ac i lofnodi'r cofnod newydd, neu
  • mae'r naill riant yn mynychu'n unigol ac yn cyflwyno datganiad statudol a wnaed gan y rhiant arall yn nodi pwy yw'r tad neu'r ail riant benywaidd, neu
  • mae'r naill riant yn mynychu'n unigol ac yn cyflwyno copi o'r cytundeb cyfrifoldeb rhieniol a wnaed gan y rhieni mewn perthynas â'r plentyn, neu
  • mae'r naill riant yn mynychu'n unigol ac yn cyflwyno copi ardystiedig o'r gorchymyn llys perthnasol, neu
  • mae'r Ffurflen GRO185 wedi'i chwblhau gan un neu'r ddau riant

Yn y naill amgylchiad uchod, gall fod rhai achlysuron lle gellir awdurdodi'r ail-gofrestriad yn lleol neu mewn rhai achosion bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at y Prif Gofrestrydd er mwyn cael awdurdodiad. Bydd y cofrestryddion yn eich cynghori yn unol â hynny.

Ffurflen Ail-gofrestru

Gallwch ofyn am ffurflen ail-gofrestru ar-lein

Ail-gofrestru genedigaeth >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Fel arall, gallwch gysylltu â'r swyddfa gofrestru.

Bydd yr ail-gofrestriad yn cael ei gynnal yn rhad ac am ddim, ond efallai byddwch yn dymuno cael  copi o'r dystysgrif geni ar gyfer y cofnod newydd. I weld y costau ewch i dudalen ffioedd tystysgrifau.

Ail-gofrestru genedigaeth mewn amgylchiadau ar wahân i Ddatganiad Rhieni

Os bydd tad, sydd ddim wedi priodi â mam y babi, yn marw cyn bod y babi wedi'i eni neu gofrestru, ac felly nad yw'n bosib cydnabod y dadolaeth, neu mewn amryw o sefyllfaoedd eraill lle nad yw'n bosib i riant cydnabod eu bod yn rhiant i'r babi, mae'n bosib deisebu'r llys am Ddatganiad Rhieni.

Gellir defnyddio'r weithdrefn hon lle fydd manylion anghywir mewn perthynas â'r dadolaeth wedi'u nodi ar y gofrestr felly gellir gwneud deiseb am Ddatganiad Di-Rhieni.

Fe ddylech geisio cyngor cyfreithiol yn yr amgylchiadau hyn ond os ddilynir y weithdrefn hon, bydd y llys yn cynghori'r Prif Gofrestrydd os gellir ail-gofrestru a bydd yr enedigaeth yn cael ei hail-gofrestru o dan gyfarwyddiadau'r llys.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni