Adnewyddu eich addunedau

Mae’r seremoni hon ar gyfer unrhyw gwpl sy’n dymuno dathlu a chadarnhau priodas neu bartneriaeth sifil.

Yn aml mae seremonïau o’r fath yn digwydd i ddathlu pen-blwydd achlysuron yn y gorffennol ond maent hefyd yn addas i gwplau ar unrhyw gyfnod yn eu perthynas.

Mae sawl cwpl sydd wedi priodi neu ffurfio partneriaeth sifil dramor yn dewis adnewyddu eu haddunedau mewn digwyddiad arbennig ar gyfer teulu a chyfeillion.

Gellir teilwra’r seremoni i wneud dathliad cofiadwy drwy ddewis geiriau, darlleniadau a cherddoriaeth sy’n adlewyrchu teimladau personol. Gellir cyfnewid modrwyau neu ailgyflwyno’r modrwyau gwreiddiol a roddwyd ar adeg y briodas neu’r bartneriaeth sifil.

Ffioedd, taliadau a lleoliadau

Cewch gynnal eich seremoni un ai yn Nhŷ Penallta neu mewn nifer o aleoliadau a gymeradwyir  ar draws y fwrdeistref sirol. Mae ffioedd a thaliadau yn amrywio yn dibynnu ar yr amser a’r fan y byddech yn cynnal y seremoni.

Am wybodaeth bellach am adnewyddu addunedau cysylltwch â ni.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni